Facebook Pixel

Cyfrifydd

Mae staff cyfrifeg a chyllid yn cadw golwg ar yr arian sy'n dod i mewn ac yn mynd allan o fusnes. Fel cyfrifydd, gallech fod yn paratoi cofnodion ariannol er mwyn eu cyflwyno a’u harchwilio, a goruchwylio cyflwyniadau treth a TAW, a chyflogau. Mae llawer o gyfrifwyr yn gweithio ar draws ystod o wahanol ddiwydiannau, ac mae eraill yn arbenigo mewn sector penodol.

Cyflog cyfartalog*

£28000

-

£55000

Sut i ddod yn gyfrifydd

Mae yna sawl llwybr i ddod yn gyfrifydd. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith.

Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddilyn, mae'n rhaid i chi fod â diddordeb â’r gallu i ymdrin â rhifau. 

Efallai bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol/cynllun hyfforddi graddedigion

Gallech gwblhau gradd mewn cyfrifeg, cyllid, economeg neu bwnc perthnasol arall. Bydd angen 3 chymhwyster Safon Uwch (neu gyfwerth) arnoch, gan gynnwys mathemateg, i astudio gradd israddedig. Wedi hynny, efallai y gallwch gael swydd fel rhan o gynllun hyfforddeion graddedig cwmni. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Coleg/darparwr hyfforddiant

Nid oes angen gradd arnoch i ddod yn gyfrifydd neu'n gynorthwyydd cyfrifon. Yn lle hynny, gallech gwblhau tystysgrif sylfaen neu ddiploma uwch neu broffesiynol trwy Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Mae angen 6 - 18 mis i gwblhau’r cyrsiau.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Hyfforddeiaeth

Os ydych rhwng 16 a 24 oed gallech fod yn gymwys am hyfforddeiaeth. Cwrs byr yw hwn (2 wythnos - 6 mis) sy'n eich helpu i ennill profiad gwaith yn eich rôl ddewisol.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni cyfrifyddiaeth yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. 

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 mlwydd oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych gymwysterau a phrofiad perthnasol, efallai y gallwch wneud cais am swydd yn uniongyrchol a pharhau i hyfforddi'n rhan-amser i ennill cymwysterau llawn. 

Gallech wneud hyn â chorff cyfrifyddiaeth broffesiynol megis Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) neu Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW).

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith o fewn y diwydiant. Gellid bod wedi cael y profiad hwn yn yr ysgol neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes cyfrifyddiaeth. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.

Medrau

Ymhlith y sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy'n ystyried swydd fel cynorthwyydd cyfrifon mae:

  • Sgiliau meddwl dadansoddol
  • Gafael da ar rifedd
  • Galluoedd trefnu rhagorol.

Cymwysterau


Beth mae cyfrifydd yn ei wneud?

Fel cyfrifydd, byddwch yn gyfrifol am reoli cyllid a llif arian i'r cwmni. Gall dyletswyddau gynnwys defnyddio meddalwedd arbenigol a deall gofynion y busnes rydych chi'n gweithio ynddo. 

Fel cyfrifydd, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Rheoli llif arian
  • Cadw cofnodion o'r holl drafodion
  • Creu, diweddaru a dadansoddi taenlenni
  • Llunio adroddiadau ariannol a rhagolygon elw
  • Gweithio â meddalwedd cyfrifeg arbenigol
  • Prosesu gwaith papur megis anfonebau a ffurflenni TAW
  • Cynorthwyo â chynlluniau ariannol a rheoli cyllidebau
  • Cysylltu â chyflenwyr, bancwyr ac archwilwyr allanol
  • Gweithio mewn swyddfa.


Faint allech ei ennill fel cyfrifydd?

  • Gall cyfrifwyr sydd newydd eu hyfforddi ennill £17,000 - £25,000
  • Gall cyfrifwyr wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £29,000 - £55,000
  • Gall cyfrifwyr uwch neu siartredig ennill £60,000 - £80,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa yn gwella â statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cyfrifwyr:  

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Efallai y byddwch yn cychwyn fel hyfforddai neu gynorthwyydd cyfrifon ac yn gweithio’ch ffordd i fyny i fod yn gyfrifydd iau neu gynorthwyol tra y byddwch yn rhannol gymwysedig.

Pan fyddwch wedi dod yn gyfrifydd â chymwysterau llawn, gallech ddod yn uwch gyfrifydd neu weithio ym maes rheoli ac ennill cyflog uwch. Gallech ddod yn gyfarwyddwr cyllid maes o law.

Byddwch yn gwella'ch rhagolygon gyrfa trwy ddod yn siartredig trwy Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Bydd angen cael  tair blynedd o brofiad gwaith mewn rôl berthnasol i gofrestru. Fel arfer, mae’n cymryd tair neu bedair blynedd i gymhwyso'n llawn. 

Fel cyfrifydd, gallech weithio yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat. Efallai y byddwch yn dewis arbenigo mewn un maes cyfrifyddiaeth megis busnes neu eiddo.

Gallech ddod yn hunangyflogedig a gweithio ar eich liwt eich hun.


Dyluniwyd y wefan gan S8080