Facebook Pixel

Gosodwr lloriau mynediad

Mae gosodwyr lloriau mynediad yn gosod systemau lloriau uchel gan ddefnyddio offer a thechnegau arbenigol. Gallai hyn gynnwys unrhyw brosiect lle mae angen lloriau uchel – o dai i glybiau nos, a meysydd awyr i swyddfeydd.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£30000

Sut mae dod yn osodwr lloriau mynediad

Mae sawl ffordd o ddod yn osodwr lloriau mynediad. Gallech ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn osodwr lloriau mynediad, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg

Efallai y bydd angen i chi fynd i goleg arbenigol neu ddarparwr hyfforddiant i ddechrau'ch astudiaethau.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

> Eglurhad o’r gofynion mynediad cyfatebol

> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi

> Cyngor am gyllid 

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni gosod lloriau mynediad yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi

> Canllawiau i brentisiaethau

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni gosod lloriau mynediad i gael profiad ar safle fel gosodwr lloriau mynediad. Gallech ddechrau fel cynorthwyydd i osodwr lloriau mynediad mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr lloriau mynediad. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

> Dysgwch fwy am brofiad gwaith

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr lloriau mynediad: 

  • Gweithio ar y safle
  • Tasgau â llaw
  • Gallu deall anghenion busnes
  • Gallu dehongli darluniau.

Cymwysterau


Beth mae gosodwr lloriau mynediad yn ei wneud?

Fel gosodwr lloriau mynediad, byddwch yn gyfrifol am osod lloriau uchel mewn amryw o wahanol leoliadau. Gall y dyletswyddau gynnwys defnyddio offer arbenigol a deall gofynion y busnes rydych chi’n gweithio ynddo. Gallai hefyd fod angen i chi weithio gyda’r nos neu ar benwythnosau, yn dibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud.

Mae rôl y gosodwr lloriau mynediad yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Gweithio ochr yn ochr â chontractwyr a gweithwyr adeiladu eraill
  • Darparu atebion a strategaethau i gleientiaid
  • Dehongli darluniau
  • Glanhau mannau lle bydd lloriau’n cael eu gosod
  • Gludo a neu ddefnyddio hoelion i osod gorchuddion llawr yn eu lle
  • Defnyddio offer arbenigol a thechnegau gosod lloriau mynediad
  • Ymweld â phrosiectau newydd posibl ac asesu’r prosiectau hynny.

Faint allech chi ei ennill fel gosodwr lloriau mynediad?

Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwyr lloriau mynediad yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall gosodwr lloriau mynediad sydd newydd gael ei hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall gosodwr lloriau mynediad hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gosodwr lloriau mynediad hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gosodwyr lloriau mynediad: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gosodwr lloriau mynediad, gallech drosglwyddo eich sgiliau i fod yn osodwr lloriau, yn arweinydd tîm neu’n gontractwr hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gosodwr lloriau mynediad Gweithio ochr yn ochr â chontractwyr eraill i osod lloriau uchel mewn gwahanol d...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arweinydd Tîm Adeiladu Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa fel Goruchwyliwr Galwedigaethol. Byddwch yn g...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080