Facebook Pixel

Gosodwr ystafelloedd gwely

Mae gosodwyr ystafelloedd gwely’n gosod dodrefn ystafell wely, gan gynnwys pecynnau fflat ac unedau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol. Gallech fod yn creu unedau storio a wardrobau mewnol i weddnewid ystafell neu helpu eich cleientiaid i wneud gwell defnydd o’r gofod sydd ganddynt.

Cyflog cyfartalog*

£18000

-

£35000

Sut i fod yn osodwr ystafelloedd gwely

Mae sawl ffordd o ddod yn osodwr ystafelloedd gwely. Gallech gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn osodwr ystafelloedd gwely, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Er nad oes angen cymwysterau penodol i fod yn osodwr ystafelloedd gwely, gall fod yn fuddiol cael TGAU (neu gymhwyster cyfatebol) ar raddau A* i C neu lefelau 9 i 4 mewn mathemateg a Saesneg.

Gallwch hefyd gwblhau cwrs coleg fel Tystysgrif Lefel 1 neu 2 mewn Gwaith Saer ac Aseidydd, neu Ddiploma Lefel 2 mewn Ystafelloedd Gosod, er y bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn dal i fod eisiau gweld bod gennych chi rywfaint o brofiad ym maes adeiladu.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth i ddod yn osodwr ystafelloedd gwely.

Mae prentisiaeth gyda chwmni gosod ystafelloedd gwely’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni gosod adeiladu i gael profiad ar safle fel gosodwr ystafelloedd gwely. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i osodwr ystafelloedd gwely mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella. Gallech hefyd ddechrau fel saer coed neu asiedydd ac arbenigo fel gosodwr ystafelloedd gwely gydag amser.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr ystafelloedd gwely. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau 

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr ystafelloedd gwely: 

  • Sylw i fanylion
  • Dealltwriaeth o brosiectau adeiladu
  • Sgiliau da o ran gweithio mewn tîm 
  • Sgiliau dylunio a gwybodaeth amdano
  • Cydweithio.

Mae gan lawer o osodwyr ystafelloedd gwely brofiad neu gymwysterau mewn crefftau eraill fel gwaith asiedydd. Gall profiad mewn diwydiannau cysylltiedig fel gwaith saer neu blastro hefyd helpu i wella eich hyder a'ch sgiliau. 

Cymwysterau


Beth mae gosodwr ystafelloedd gwely yn ei wneud?

Fel gosodwr ystafelloedd gwely, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio a chwblhau’r holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â gosod a ffitio ystafelloedd gwely. Gall y dyletswyddau gynnwys cael gwared ar unedau presennol a mesur ar gyfer rhai newydd. Gallai hefyd fod angen i chi ddilyn cynlluniau a luniwyd gan dimau dylunio a gweithio o gwmpas nodweddion presennol fel pibellau cudd ac unedau.

Mae swydd gosodwr ystafelloedd gwely’n cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cael gwared ar hen unedau a switiau
  • Mesur a chydosod unedau
  • Gosod unedau a chyfarpar
  • Gosod lloriau ac addurno waliau
  • Nodi lleoliad pibelli a cheblau cudd
  • Mesur a thorri arwynebau gwaith, cilfachau ac uniadau
  • Gosod unedau, dodrefn a chyfarpar
  • Clirio malurion ar ddiwedd y gwaith
  • Gweithio yng nghartrefi cleientiaid neu mewn busnesau.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gosodwr ystafelloedd gwely?

Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr ystafelloedd gwely yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gosodwyr ystafelloedd gwely sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £18,000 - £20,000
  • Gall gosodwr ystafelloedd gwely hyfforddedig gyda pheth profiad ennill £20,000 - £35,000
  • Gosodwyr ystafelloedd gwely hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gosodwr ystafelloedd gwely: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gosodwr ystafelloedd gwely, gallech symud i ragor o swyddi, gan gynnwys:

  • Goruchwyliwr galwedigaethol
  • Gosodwr ceginau
  • Gosodwr siopau
  • Saer coed.

Gallech chi hefyd symud i swydd fel amcangyfrifwr, sydd hefyd yn cael ei alw’n beiriannydd costau, neu ymgymryd â rôl uwch reolwr neu arweinydd tîm gyda chwmni.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gosodwr ystafelloedd gwely Mae gosodwyr ystafelloedd gwely’n creu ystafelloedd gwely unigol, gyda thasgau’n...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd Gosod Allan Peirianwyr Gosod Allan yw'r prif gynghorwyr technegol i isgontractwyr a gweithre...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Tiwtor Addysg Bellach Gweithiwch gyda disgyblion dros 16 oed i’w helpu i ddysgu’r sgiliau sy’n eu siap...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080