Facebook Pixel

Gweinyddwr

Mae gweinyddwyr yn helpu i redeg swyddfeydd yn ddidrafferth trwy gyflawni tasgau clerigol a phrosiectau. Fel gweinyddwr yn y diwydiant adeiladu, gallech fod yn trefnu cyfarfodydd prosiectau. Byddech yn teipio dogfennau, yn ymateb i ymholiadau busnes, yn llunio contractau ac yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid. Rydych yn debygol o fod yn prosesu llawer o wybodaeth gan ddefnyddio cyfrifiadur, felly bydd angen sgiliau TG cryf arnoch. Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol hefyd yn bwysig, er mwyn sicrhau bod y swyddfa'n gweithredu'n effeithlon. Mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa fel gweinyddwyr, mewn amrywiaeth o leoliadau.

Cyflog cyfartalog*

£16000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i ddod yn weinyddwr

Mae yna sawl llwybr i ddod yn weinyddwr. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy wneud cwrs coleg neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr.

Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy'n iawn i chi. 

Efallai bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwr hyfforddiant

Bydd y mwyafrif o golegau neu ddarparwyr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau gweinyddu busnes a TG a fydd yn ddechrau i’ch llwybr gyrfa. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Hyfforddeiaeth

Os ydych rhwng 16 a 24 oed gallech fod yn gymwys i gael hyfforddeiaeth. Cwrs byr yw hwn (2 wythnos - 6 mis) sy'n eich helpu i ennill profiad gwaith yn eich rôl ddewisol.

Dysgwch ragor am hyfforddeiaethau 

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth fel gweinyddwr yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant adeiladu. 

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 mlwydd oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych brofiad fel gweinyddwr mewn sector arall, gallech drosglwyddo'r sgiliau hyn i'r diwydiant adeiladu. Efallai y bydd eich cyflogwr newydd yn darparu hyfforddiant i'ch helpu i symud ymlaen yn y rôl. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith o fewn y diwydiant. Gellid bod wedi cael y profiad hwn yn yr ysgol neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes gweinyddu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV. 

Dysgwch ragor am brofiad gwaith

Cymwysterau

I fod yn weinyddwr, bydd angen cymwysterau TGAU arnoch ar raddau 9 i 5 gan gynnwys Mathemateg a Saesneg, efallai y bydd angen Lefelau A a phrofiad blaenorol ar rai.

I fodod yn weinyddwr, bydd angen cymwysterau Scottish National 5 graddau A-C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg, efallai y bydd angen Lefel A a phrofiad blaenorol ar rai.

I fod yn weinyddwr, bydd angen cymwysterau TGAU arnoch ar raddau A* i C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg, efallai y bydd angen Lefelau A a phrofiad blaenorol ar rai.


Beth mae gweinyddwr yn ei wneud?

Fel gweinyddwr, gallech fod yn gwneud y canlynol: 

  • Paratoi, trefnu a storio gwybodaeth ar bapur ac yn ddigidol
  • Ymateb i ymholiadau dros y ffôn a thrwy e-bost
  • Cyfarch ymwelwyr yn y dderbynfa
  • Rheoli dyddiaduron, trefnu cyfarfodydd ac archebu ystafelloedd
  • Gwneud trefniadau teithio a llety
  • Trefnu'r post a phecynnau i’w dosbarthu
  • Cadw cofnodion mewn cyfarfodydd
  • Teipio llythyrau ac adroddiadau
  • Diweddaru cofnodion ar gyfrifiadur gan ddefnyddio cronfa ddata
  • Argraffu a llungopïo
  • Archebu cyflenwadau swyddfa
  • Cynnal systemau swyddfa
  • Cysylltu â chyflenwyr a chontractwyr
  • Cysylltu â staff mewn adrannau eraill, e.e. cyllid, adnoddau dynol
  • Gweithio mewn swyddfa.


Faint allech ei ennill fel gweinyddwr?

  • Gall gweinyddwyr sydd newydd eu hyfforddi ennill £16,000 - £20,000
  • Gall gweinyddwyr wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £18,000 - £25,000
  • Gall uwch weinyddwyr ennill £25,000 - £35,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweinyddwyr:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Ar ôl ennill rhywfaint o brofiad, gallech ddod yn uwch weinyddwr, symud i rolau ym maes adnoddau dynol neu ddod yn rheolwr dogfennau.


Dyluniwyd y wefan gan S8080