Facebook Pixel

Gweithiwr leinin sych

Mae gweithwyr leinin sych yn creu waliau ac ystafelloedd mewn adeiladau. Maent yn defnyddio plastrfwrdd i guddio pibellau a gwifrau, yn creu lle ar gyfer deunydd inswleiddio ac yn llyfnhau arwynebau anwastad yn ystod gwaith adnewyddu. Gallent adeiladu nenfydau crog, lloriau wedi’u codi, a darparu deunyddiau gwrthsain arbenigol. Mae'r rôl yn cynnwys mesur, torri a gosod plastrfwrdd (atgyweirio), a selio uniadau rhwng byrddau i lyfnhau'r ymylon (gorffen).

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

42-44

Sut i ddod yn weithiwr leinin sych

Mae yna sawl llwybr i ddod yn weithiwr leinin sych. Gallwch ddechrau ar eich llwybr gyrfa trwy astudio cwrs coleg neu wneud prentisiaeth.

Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy’n i chi. Er y bydd rhai o'r opsiynau hyn yn gofyn am gymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sydd yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu(CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwr hyfforddiant

Efallai y bydd angen i chi fynychu cyrsiau gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant arbenigol er mwyn hyfforddi i ddod yn weithiwr leinin sych. Gallech astudio am Ddyfarniad Lefel 1 mewn Gweithrediadau Leinin Sych neu Ddiploma Lefel 2 neu 3 mewn Gwaith Leinin Sych.

Yn gyffredinol, byddwch angen:

Hyfforddeiaeth

Os ydych rhwng 16 a 24 oed gallech fod yn gymwys am hyfforddeiaeth. Cwrs byr yw hwn (2 wythnos - 6 mis) sy'n eich helpu i ennill profiad gwaith yn eich rôl ddewisol.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd o gychwyn gweithio yn y diwydiant.

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Mae prentisiaeth ganolradd mewn gwaith leinin sych yn cymryd tua dwy flynedd i'w chwblhau. Fel arall, gallech ddilyn llwybr prentisiaeth plastro i ddechrau ac yna arbenigo mewn gwaith leinin sych.

Yn gyffredinol, bydd angen rhywfaint o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) arnoch, yn cynnwys Saesneg a mathemateg, i wneud prentisiaeth.

Gwaith

Os gallwch chi ddod o hyd i waith fel llafurwr neu gynorthwyydd gweithiwr leinin sych, efallai y gall eich cyflogwr eich helpu chi i wneud rhagor o hyfforddiant yn y gwaith er mwyn datblygu rhagor o sgiliau.

Os oes gennych brofiad mewn gwaith coed, plastro neu osod partisiynau ar safleoedd adeiladu, efallai y gallwch anfon cais am swydd yn uniongyrchol at gyflogwr.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gellid bod wedi cael y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.


Beth mae gweithiwr leinin sych yn ei wneud?

Fel gweithiwr leinin sych, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Mesur a thorri bwrdd plastr i'r maint priodol
  • Gosod byrddau i drawstiau nenfwd metel neu bren
  • Torri byrddau i ffitio o amgylch drysau a ffenestri
  • Selio uniadau gan ddefnyddio llenwadau ac adlynion
  • Tapio seliau a phlastro’r byrddau
  • Llyfnhau arwynebau yn barod i'w paentio a'u haddurno
  • Gweithio yng nghartref neu fusnes cleient, neu ar safle adeiladu.

Faint allech ei ennill fel gweithiwr leinin sych?

  • Gall gweithwyr leinin sych sydd newydd eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gweithwyr leinin sych wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £20,000 - £30,000
  • Gall gweithwyr leinin sych uwch neu rai sy'n feistr ar eu crefft ennill £30,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithwyr leinin sych: 

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Gallech symud ymlaen yn eich gyrfa i ddod yn syrfëwr meintiau neu amcangyfrifwr gwaith leinin sych. Fel arall, gallech ddod yn oruchwyliwr safle neu'n arweinydd tîm ac ennill cyflog uwch.

Mae'n bosibl i weithwyr leinin sych arbenigo neu symud i faes crefft gysylltiedig. Gallech ddod yn osodwr nenfwd, gweithredwr systemau partisiynau neu blastrwr.

Gallech hefyd sefydlu eich busnes eich hun a gweithio fel is-gontractwr i gwmnïau adeiladu.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithiwr leinin sych Mae gweithiwr leinin sych yn creu'r waliau a'r ystafelloedd mewn adeilad. Mae he...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Plastrwr Mae'r plastrwr yn aelod anhepgor o'r rhan fwyaf o safleoedd adeiladu – mae'n gwn...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080