Facebook Pixel

Peiriannydd strwythurol

Mae peirianwyr strwythurol yn sicrhau y gall strwythurau wrthsefyll y straen a'r pwysau a roddir arnynt gan ddefnydd a'r amgylchedd. Maent yn cyfrifo sefydlogrwydd, cryfder ac anhyblygrwydd ac yn sicrhau fod y deunyddiau cywir yn cael eu defnyddio ar gyfer pob prosiect, p’un a yw'n adeilad newydd, yn addasiad neu'n waith adnewyddu. Fel peiriannydd strwythurol, gallech weithio ar brosiectau preswyl, siopau a swyddfeydd, pontydd a rigiau ar y môr, theatrau, amgueddfeydd ac ysbytai, neu hyd yn oed loerennau gofod.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£55000

Oriau arferol yr wythnos

40-42

Sut i ddod yn beiriannydd strwythurol

Mae yna sawl llwybr i ddod yn beiriannydd strwythurol. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy wneud cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith. Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Y Brifysgol

Gallwch gwblhau gradd israddedig neu ôl-raddedig mewn peirianneg sifil, strwythurol neu bensaernïol. I wneud hyn, byddwch angen:

  • 2 - 3 o gymwysterau safon uwch, yn cynnwys mathemateg a phwnc gwyddonol (gradd israddedig)
  • Gradd gyntaf mewn pwnc perthnasol (cwrs ôl-raddedig).

Wedi hynny, gallech wneud cais am le ar gynllun hyfforddeion graddedig cwmni adeiladu neu gwmni peirianneg.

Coleg/darparwr hyfforddiant 

Efallai y bydd angen mynychu cyrsiau gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant arbenigol er mwyn astudio i ddod yn beiriannydd strwythurol. 

Gallech gwblhau Diploma Cenedlaethol Uwch Lefel 5 mewn peirianneg sifil. Ar ôl hynny, efallai y gallech weithio fel peiriannydd cynorthwyol neu beiriannydd dan hyfforddiant a chael hyfforddiant yn y gwaith i gymhwyso'n llawn. 

Yn gyffredinol, bydd angen 1 neu 2 o gymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) arnoch i astudio am Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND).

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant.  Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Gallech gwblhau prentisiaeth gradd peiriannydd sifil ac yna cael rhagor o hyfforddiant proffesiynol i gymhwyso fel peiriannydd strwythurol.

Yn gyffredinol, bydd angen 4 - 5 cymhwyster TGAU (neu gyfwerth) arnoch â graddau 9 - 4 (A* - C) a chymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) i wneud prentisiaeth gradd.

Gwaith

Os oes gennych sgiliau neu brofiad perthnasol, gallech ddod o hyd i waith fel technegydd peirianneg sifil neu adeiladu ac astudio gradd yn rhan-amser er mwyn cymhwyso.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.


Beth mae peiriannydd strwythurol yn ei wneud?

Fel peiriannydd strwythurol, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Defnyddio efelychiadau modelu cyfrifiadurol i ragweld sut y bydd strwythurau'n gweithredu o dan amodau amrywiol, h.y. gwyntoedd cryfion, llifogydd neu ddirgryniadau
  • Cyfrifo llwythi a phwysau ar sylfeini strwythurol, trawstiau a waliau
  • Sicrhau bod prosiectau'n cwrdd â gofynion cyfreithiol, a safonau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch
  • Cynghori ar y deunyddiau mwyaf addas ar gyfer gwaith adeiladu
  • Arolygu adeiladau i asesu eu cyfanrwydd strwythurol
  • Cynghori ynghylch atgyweirio neu ddymchwel adeiladau
  • Paratoi cynigion am dendrau
  • Cydweithio â dylunwyr i ddatblygu cynlluniau adeiladu a glasbrintiau
  • Gwella effeithlonrwydd ynni strwythur
  • Darparu adroddiadau ynghylch cynnydd
  • Dadansoddi ymddygiad adeilad dros amser
  • Cynorthwyo â gwaith adnewyddu, neu adfer adeiladau treftadaeth i ymestyn hyd eu hoes
  • Gweithio ym musnes cleient, ar safle adeiladu neu mewn swyddfa, yn yr awyr agored neu dan amodau swnllyd, llychlyd a chyfyng yn aml.

Faint allech ei ennill fel peiriannydd strwythurol?

  • Gall peirianwyr strwythurol sydd newydd eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall peirianwyr strwythurol wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £25,000 - £45,000
  • Gall peirianwyr strwythurol uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 - £55,000.

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa hefyd yn gwella â statws siartredig. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer peirianwyr strwythurol:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Ar ôl cael profiad, gallech ennill statws peiriannydd siartredig. Byddai hyn yn caniatáu i chi ddatblygu eich gyrfa i rolau rheoli prosiectau uwch o fewn cwmnïau adeiladu ac ennill cyflog uwch. 

Gallech ddod yn rheolwr prosiect neu ganolbwyntio ar ddylunio adeiladu. 

Bydd rhai peirianwyr strwythurol yn symud i swyddi addysgu neu ymchwil. Gallech hefyd ddod yn ymgynghorydd prosiect.


Dyluniwyd y wefan gan S8080