Facebook Pixel

Peiriannydd trydanol

Mae peirianwyr trydanol yn dylunio, datblygu a chynnal systemau trydanol ar gyfer adeiladau, systemau trafnidiaeth a rhwydweithiau dosbarthu pŵer. Maent yn gweithio o fewn ac ar draws sawl diwydiant, megis adeiladu, trafnidiaeth, ynni (gan gynnwys ynni adnewyddadwy), gwasanaethau adeiladu a gweithgynhyrchu. Mae peirianwyr trydanol angen dealltwriaeth dda o wyddor peirianneg, a meddu ar sgiliau mathemateg a chyfrifiadurol cryf.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£60000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Sut i ddod yn beiriannydd trydanol

Mae yna sawl llwybr i ddod yn beiriannydd trydanol. Gallech gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth. Os oes gennych sgiliau neu brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais yn uniongyrchol at i gyflogwr neu hyfforddi yn y gwaith. Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol/cynllun hyfforddi graddedigion

Gallwch gwblhau gradd mewn peirianneg drydanol neu electronig, neu gallwch ddewis gradd gysylltiedig megis electromecaneg neu beirianneg y gwasanaethau adeiladu. Gallech hefyd astudio mecatroneg neu ffiseg gymhwysol. 

Bydd angen 2 - 3 o gymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) arnoch i wneud gradd. Ar ôl hynny, efallai y gallwch ymuno â chynllun hyfforddeion graddedig cwmni.  

Coleg/darparwr hyfforddiant

Efallai y bydd angen mynychu cyrsiau gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant arbenigol er mwyn dod yn beiriannydd trydanol.

Gallech astudio am Ddiploma Cenedlaethol Uwch ar Lefel 4 a 5 (HND) mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig.

Yn gyffredinol, bydd angen 1 - 2 o gymwysterau safon uwch arnoch, neu ddiploma lefel 3 neu BTEC ar gyfer cyrsiau lefel 4 neu 5.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. 

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Byddai angen cymwysterau safon uwch neu gyfwerth arnoch i wneud prentisiaeth peiriannydd trydanol, gan ei fod yn uwch-brentisiaeth. Bydd angen 4 - 5 o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) arnoch â graddau 9 - 4 (A* - C) hefyd. 

Gwaith

Os oes gennych gymwysterau perthnasol a phrofiad mewn maes cysylltiedig , megis gosodiadau trydanol neu electroneg, efallai y gallwch anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr.

Os ydych newydd ddechrau arni, gallech wneud cais am swydd technegydd peirianneg drydanol. Yna, gallech hyfforddi yn y gwaith gyda chwmni peirianneg drydanol er mwyn cymhwyso.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV. 


Beth mae peiriannydd trydanol yn ei wneud?

Fel peiriannydd trydanol, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Rheoli cynhyrchu pŵer, trosglwyddo a dosbarthu ynni
  • Gweithio ag offer foltedd uchel ac isel
  • Dylunio systemau a chynhyrchion gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol
  • Gweithio â ffynonellau ynni adnewyddadwy
  • Rheoli a chynnal gwasanaethau adeiladu, megis systemau goleuo, gwresogi, awyru a lifft
  • Cynnal astudiaethau dichonoldeb ar gyfer datblygiadau technegol newydd
  • Llunio cynlluniau prosiectau, gwneud modelau, prototeipiau a diagramau cylched ar gyfer offer foltedd uchel ac isel
  • Cyllido ac amcangyfrif amserlenni
  • Goruchwylio technegwyr a chrefftwyr
  • Profi gosodiadau a systemau
  • Sicrhau fod prosiectau'n cwrdd â rheoliadau diogelwch
  • Goruchwylio rhaglenni arolygu a chynnal a chadw
  • Cysylltu â chleientiaid
  • Rheoli rhaglenni cynnal a chadw
  • Gweithio mewn ffatrïoedd, pwerdai, neu gyfleusterau ymchwil, mewn gweithdy, swyddfa neu yn yr awyr agored.

Faint allech ei ennill fel peiriannydd trydanol?

  • Gall peirianwyr trydanol sydd newydd eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall peirianwyr trydanol wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £25,000 - £40,000
  • Gall peirianwyr trydanol uwch, siartredig neu feistr ennill £45,000 neu ragor.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer peirianwyr trydanol:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Mae peirianwyr trydanol yn gweithio gyda chwmnïau ar draws sawl diwydiant. Gallech arbenigo mewn adeiladu, gwasanaethau adeiladu, ynni adnewyddadwy neu systemau trafnidiaeth. 

Ynghyd â statws peiriannydd siartredig, gallech symud i rolau dylunio, uwch beiriannydd, neu reoli prosiectau. Gallech hefyd ddod yn ymgynghorydd peirianneg a phennu eich cyflog eich hun.


Dyluniwyd y wefan gan S8080