Facebook Pixel

Rheolwr dogfennau

Mae rheolydd dogfennau yn cynnal dogfennau prosiectau. Maent yn sicrhau fod y wybodaeth gywir yn cael ei dosbarthu drwy’r sefydliad, yn brydlon, i’r bobl sydd ei angen. Yn y diwydiant adeiladu, mae rheolyddion dogfennau yn gweithio â dogfennau technegol megis glasbrintiau ac adroddiadau. Maent yn trefnu ac yn storio dogfennau electronig a chopïau caled ar gyfer dylunwyr, syrfewyr, penseiri a chydweithwyr eraill.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Sut i ddod yn rheolydd dogfennau

Mae yna sawl llwybr i ddod yn rheolydd dogfennau. Gallwch ennill y cymwysterau i'ch helpu ar eich llwybr gyrfa fel rheolwr dogfennau trwy gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth. 

Dylech archwilio'r opsiynau hyn i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi. Er bod gan rai o'r opsiynau hyn ofynion penodol ynghylch cymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Mae'n well gan rai cyflogwyr ymgeiswyr sydd â chymwysterau uwch. Gallech wneud gradd israddedig neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND). Mae pynciau perthnasol yn cynnwys TG a gweinyddu busnes.

Byddwch angen: 

  • 1 - 2 o gymwysterau safon uwch, neu gyfwerth (HND)
  • 2 - 3 o gymwysterau safon uwch, neu gyfwerth (gradd gyntaf)

Wedi hynny, efallai y gallwch ymuno â chynllun hyfforddeion graddedig cwmni.  

Dod o hyd i gwrs prifysgol.

Cyngor ynghylch cyllid

Coleg/darparwr hyfforddiant

Efallai y bydd eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau a fydd yn eich helpu i ddod yn rheolydd dogfennau. Gallech astudio am gymwysterau TG neu weinyddu, neu gallech gwblhau Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn pwnc perthnasol, megis rheoli gwybodaeth.

Yn gyffredinol, bydd angen o leiaf 3 chymhwyster TGAU arnoch, yn cynnwys Saesneg ac efallai bydd angen i chi sefyll prawf asesu i gael lle ar gwrs mewn coleg neu gan ddarparwr hyfforddiant. 

Dod o hyd i gwrs cyfagos

Cyngor ynghylch cyllid 

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant. 

Nid oes prentisiaeth benodol ar gael i ddod yn rheolydd dogfennau. Gallech ddod yn brentis ym meysydd gweinyddu, TG neu faes tebyg, a gweithio’ch ffordd i fyny i wneud y swydd hon.

Gwaith

Os oes gennych brofiad fel gweinyddwr neu dechnegydd TG, efallai byddwch yn gallu anfon cais am waith yn uniongyrchol at gwmnïau. Efallai bydd cyflogwyr yn gallu cynnig hyfforddiant ychwanegol i ddod yn rheolydd dogfennau. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gellid bod wedi ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV. 

Dysgwch ragor am brofiad gwaith


Beth mae rheolydd dogfennau yn ei wneud?

Fel rheolydd dogfennau, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Rheoli dogfennaeth cwmni a phrosiectau
  • Dilyn gweithdrefnau rheoli dogfennau a'u gwella
  • Sicrhau fod yr holl ddogfennaeth yn ateb gofynion ffurfiol a bodloni safonau gofynnol
  • Trefnu, storio ac adalw dogfennau electronig a chopïau caled ar ran cleientiaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant
  • Cynhyrchu adroddiadau cynnydd ynghylch dogfennau ar gyfer uwch reolwyr
  • Cynnal adolygiadau rheolaidd ac archwilio dogfennau yn rheolaidd
  • Defnyddio cyfrifiaduron i drefnu a dosbarthu dogfennau o fewn cwmni
  • Helpu yn ystod camau cynllunio prosiect penodol
  • Sicrhau y caiff dogfennau eu rhannu ar adegau allweddol i hwyluso cyflawni prosiectau yn brydlon
  • Gweithio mewn swyddfa.

Faint allech ei ennill fel rheolydd dogfennau?

  • Gall rheolydd dogfennau dan hyfforddiant a rhai sydd newydd eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall rheolydd dogfennau wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £20,000 - £35,000
  • Gall uwch-reolydd dogfennau ennill dros £35,000.* 

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer goruchwylwyr dogfennau:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Ar ôl cael profiad, gallech symud ymlaen i rôl uwch, megis rheolwr dogfennau, ac ennill cyflog uwch.


Dyluniwyd y wefan gan S8080