Facebook Pixel

Rheolwr bidio

A elwir hefyd yn -

Ysgrifennydd Bidiau

Mae rheolwr bidio yn gyfrifol am baratoi ac ysgrifennu’r dogfennau masnachol manwl, megis holiaduron cyn-gymhwyso (PGQs) a thendrau, y mae cwmnïau'n eu cyflwyno i ennill contractau newydd. Mae'n swydd bwysig iawn o fewn sefydliad gan fod angen sgiliau trefnu rhagorol ac mae'n hanfodol i gwmnïau ennill contractau newydd.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£70000

Oriau arferol yr wythnos

37-39

Sut i fod yn rheolwr bidio

Mae sawl ffordd o ddod yn rheolwr bidio. Gallech chi ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn rheolwr bidio i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Bydd rhai cyflogwyr yn disgwyl i chi gael gradd israddedig i ymuno fel rheolwr bidio. Mae pynciau perthnasol yn cynnwys Saesneg, rheoli busnes neu werthu a marchnata.

Ar gyfer gradd israddedig, bydd angen y canlynol arnoch fel arfer:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth
  • 2 i 3 Lefel A, neu gyfwerth.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg mewn astudiaethau busnes neu weinyddiaeth i ddod yn rheolwr bidio.

Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i ddilyn cwrs coleg.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau prentisiaeth i ddod yn rheolwr bidio, megis uwch brentisiaeth cydlynydd bidio a chynnig.

Nid oes gofynion mynediad penodol ar gyfer prentisiaeth i ddod yn rheolwr bidio, ond gallai eich helpu i gael:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, ar gyfer uwch brentisiaeth.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Gallech ddechrau fel hyfforddai neu reolwr bidio iau. Os oes gennych rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni i gael profiad mewn swydd. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd i reolwr bidio mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Bydd llawer o gyflogwyr yn disgwyl o leiaf y canlynol:

  • 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg
  • Bydd yn well gan rai cyflogwyr i chi gael lefelau A, neu gymhwyster cyfatebol.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr bidio:

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Gwybodaeth am yr iaith Saesneg
  • Y gallu i weithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Sgiliau gweinyddol
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Y gallu i ddefnyddio cyfrifiaduron a meddalwedd yn fedrus.

Beth mae rheolwr bidio’n ei wneud?

Fel rheolwr bidio, byddwch yn gyfrifol am ysgrifennu tendrau ac adolygu dogfennau i sicrhau contractau newydd ar gyfer eich busnes. Gall fod yn ofynnol i chi weithio gyda’r nosau yn ystod y cyfnod cyn cyflwyno bid newydd.

Mae rôl rheolwr bidio’n cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Dadansoddi’r ddogfen dendro i ddeall anghenion y cleient
  • Trefnu gwaith paratoi bidiau er mwyn sicrhau y cedwir at derfynau amser
  • Cysylltu â rheolwyr eraill i gytuno ar fanylion y bidiau
  • Paratoi astudiaethau achos a deunyddiau cyfeirio eraill
  • Golygu neu ailysgrifennu tendrau blaenorol i ailddefnyddio deunyddiau perthnasol
  • Cyfuno deunyddiau a ddarparwyd gan adrannau gwahanol a sicrhau tôn gyson ar draws y ddogfen gyfan
  • Sicrhau bod y bid yn fanwl gywir ac yn cael ei gyflwyno’n brydlon.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel rheolwr bidio?

Mae’r cyflog disgwyliedig i reolwr bidio yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall rheolwyr bidio sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £22,000 - £30,000
  • Gall rheolwyr bidio hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £40,000 - £50,000
  • Gall uwch reolwyr bidio ennill £50,000 - £70,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer rheolwyr bidio:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel rheolwr bidio, gallech symud ymlaen i fod yn uwch reolwr bidio.  

Gallech hefyd symud i faes cysylltiedig a dod yn arweinydd tîm, rheolwr datblygu busnes neu reolwr contractau.

Neu, gallech sefydlu eich hun fel ymgynghorydd neu reolwr bidio llawrydd.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr bidio Mae'r disgrifiad swydd Rheolwr Bidio Am Adeiladu hwn yn sôn am bopeth y mae ange...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr datblygu busnes Mae gan Reolwyr Datblygu Busnes Adeiladu ystod o ddyletswyddau. O ddatblygu cont...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080