Facebook Pixel

Trydanwr

A elwir hefyd yn -

Gosodwr trydanol, technegydd trydanol

Mae trydanwyr yn darparu ynni i adeiladau i oleuo ystafelloedd, cynhesu dŵr a phweru dyfeisiau. Maent yn gosod, archwilio a phrofi offer trydanol, gan sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn ac yn ddiogel. Fel trydanwr, gallech fod yn cynnal systemau traddodiadol mewn cartrefi, siopau a swyddfeydd. Mae rhai trydanwyr yn gweithio â thechnoleg adnewyddadwy neu opteg ffibr. Mae eraill yn gwasanaethu moduron, trawsnewidyddion, goleuadau stryd neu systemau traffig, neu'n gweithio ar brosiectau peirianneg.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£36000

Oriau arferol yr wythnos

30-40

Sut i ddod yn drydanwr

Mae yna sawl llwybr i ddod yn drydanwr. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth. Os oes gennych brofiad perthnasol yn barod, efallai y gallech anfon cais am swydd yn uniongyrchol at gyflogwr. 

Dylech archwilio'r opsiynau i  ddod o hyd i’r un sy'n iawn i chi.

Mae angen golwg lliw normal arnoch i weithio â gwifrau trydanol a bydd rhaid pasio prawf asesu golwg lliw.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwr hyfforddiant 

Efallai y bydd eich coleg neu ddarparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau a fydd yn ddechrau ar eich llwybr gyrfa i ddod yn drydanwr. 

Gallech gofrestru ar gwrs Diploma Lefel 2 a 3 City & Guilds mewn Gosodiadau Trydanol.

Byddwch angen:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni gosodiadau trydanol yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant.

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 mlwydd oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Mae prentisiaeth gosodiadau trydanol canolradd yn cymryd tua dwy flynedd i'w chwblhau. Os yw’ch cyflogwr yn gallu cynnig y profiadau priodol i chi, gallech symud ymlaen i gwblhau cymhwyster Lefel 3 (uwch).

Yn gyffredinol, bydd angen 4 cymhwyster TGAU (neu gyfwerth) arnoch â graddau 9 - 4 (A* - C), yn cynnwys Saesneg a mathemateg, i ddod yn brentis trydanwr. 

Gwaith

Os oes gennych rywfaint o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) gan gynnwys Saesneg a mathemateg, ynghyd â sgiliau ymarferol da, efallai y gallwch gael swydd fel cynorthwyydd neu hyfforddai trydanwr. Yna, efallai y gall eich cyflogwr eich hyfforddi i ennill cymwysterau llawn.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant. Gallech gael y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes gosodiadau trydanol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV. 


Beth mae trydanwr yn ei wneud?

Fel trydanwr, gallech fod yn gwneud y canlynol:

  • Archwilio systemau, gwifrau a chyfarpar trydanol i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gweithio'n iawn
  • Atgyweirio diffygion trydanol neu osod darnau newydd
  • Cysylltu socedi, switshis, ffitiadau golau ac offer
  • Gosod ceblau i gysylltu cyfarpar â phŵer a rhwydweithiau cyfrifiadurol
  • Gosod systemau diogelwch neu rwydweithiau data
  • Gweithio â goleuadau stryd a systemau rheoli traffig
  • Gosod ceblau ffibr-optig
  • Cynnal moduron trydanol, trawsnewidyddion a pheiriannau
  • Gwneud a gosod paneli rheoli trydanol
  • Rhaglennu adeiladau ‘deallus’ a reolir gan gyfrifiadur
  • Dilyn cynlluniau technegol
  • Cadw at reoliadau diogelwch caeth
  • Dysgu am ddeddfwriaeth newydd ynghylch trydan
  • Ymateb i alwadau brys megis toriadau pŵer 
  • Gweithio ar safle adeiladu, mewn lleoliadau domestig neu fasnachol, ar y môr, yn lleol neu dramor, yn aml dan amodau cyfyng neu ar uchder.


Faint allech ei ennill fel trydanwr?

  • Gall trydanwyr sydd newydd eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall trydanwr wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £19,000 - £30,000
  • Gall trydanwyr uwch neu rai sy'n feistr ar eu crefft ennill £30,000 - £36,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer trydanwyr:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Ar ôl cael rhywfaint o brofiad, gallech ddod yn beiriannydd gwasanaethau adeiladu. Gallech hefyd symud i faes dylunio trydanol.

Mae rhai trydanwyr yn sefydlu eu busnes eu hunain ac yn gweithio fel isgontractwyr i gwmnïau eraill. Mae eraill yn dod yn diwtoriaid ac yn rhannu eu gwybodaeth.


Dyluniwyd y wefan gan S8080