"Byddet wedi gwirfoddoli i wneud y swydd hon"

03 Mawrth 2016 gan Lara Townsend

Roedd gennyf lawer o opsiynau wrth wneud cais i fynd i'r brifysgol. Peirianneg, peirianneg bensaernïol, y gyfraith - gwnes gais ar gyfer hanes celf hefyd. Yn y diwedd, penderfynais ar hanes celf ac yn fy nhrydedd flwyddyn astudiais gadwraeth pensaernïaeth Albanaidd.

Pan symudais o Dde Affrica i'r Alban, roedd gennyf gymaint mwy o werthfawrogiad o'r dreftadaeth yma.

Mae'r tŷ lle rwyf yn byw yn fwy na 200 mlynedd oed - mae hynny'n hŷn na rhai o'r henebion cenedlaethol yn Ne Affrica.

Gwnaeth yr adeiladau trawiadol yng Nghaeredin a'r cyferbyniad rhwng y dref newydd a'r hen dref argraff fawr arnaf.

Byddai fy ffrindiau yn chwerthin pan fyddwn yn dweud "mae gennych chi gastell go iawn ar y bryn!" Fyddwn i byth yn gallu mynd heibio heb syllu.

Yr ochr ymarferol

Pan oeddwn yn gadael yr ysgol, cefais fy annog i fynd i'r brifysgol ac ni chafodd unrhyw opsiynau eraill eu trafod mewn gwirionedd.

Rwyf wrth fy modd yn dysgu ac roeddwn yn mwynhau fy mhynciau, ond nid oedd yr amgylchedd academaidd yn apelio rhyw lawer i mi.

Gyda thraethodau, roeddwn weithiau'n ei chael hi'n anodd gweld beth oedd y diben yn y pen draw, heblaw am brofi y gallwn ddadansoddi a thrin gwybodaeth er mwyn ateb cwestiwn.

Pan fyddwch yn torri darn o garreg ac yn rhoi pren mesur neu ochr syth arno i sicrhau ei fod yn syth, gallwch ddweud os nad oes unrhyw beth y gallech fod wedi'i wneud yn well. Ni allwch ei feirniadu pan fydd y ffeithiau'n dangos fel arall.

"Roedd yn anodd ar y dechrau"

Nid oeddwn yn chwilio am brentisiaeth ond dyna oedd yr union fformat i mi. Roeddwn yn adnabod pobl a oedd wedi dilyn cyrsiau MA mewn cadwraeth ond nad oeddent o'r farn eu bod yn cynnwys digon o'r ochr ymarferol, a dyna yr oeddwn am ganolbwyntio arno.

Y garreg gyntaf y gwnes ei thorri oedd ar gyfer pen gorllewinol Eglwys Gadeiriol Glasgow. Roedd yn eithaf syml, ond roedd yn gyffrous iawn gweld y broses o'i dechrau, i fod ar y sgaffaldiau, yn torri'r garreg newydd a'i hymgorffori.

Roedd yn deimlad gwych ar ôl iddi gael ei gosod. Os byddaf yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr eglwys gadeiriol nawr, rwy'n dal i edrych i fyny i ddod o hyd i'm carreg.

Rwyf wedi bod yn dilyn y brentisiaeth ers tair blynedd bellach ac wedi gosod ambell garreg arall yn yr eglwys gadeiriol yn ogystal ag yn ein henebion eraill.

Mae'n anhygoel meddwl y gallent fod yno am y 100 mlynedd nesaf, a dim ond gwaith rwyf wedi'i wneud fel prentis yw hynny.

Roedd yn anodd ar y dechrau ac roedd yn codi arswyd arnaf. Roeddwn yn cael trafferth i ddod i arfer â'r rhythm ar y dechrau - cefndir mewn cerfluniaeth sydd gennyf, lle rydych yn tapio'n ddi-baid wrth dorri, ond mewn gwaith maen ceir trawiadau pendant.

Weithiau roeddwn yn amau fy hun ac yn holi pam fy mod yn ei wneud o gwbl. Mae'n cymryd amser i ddeall sut mae pethau'n gweithio a sut i fod yn effeithlon, hyd yn oed gyda'r pethau syml.

Braint

Nawr, rwy'n cael cyfrifoldeb dros dasgau amrywiol ac yn briffio'r prentisiaid sy'n dechrau yma. Rwy'n gwybod beth fydd y camau nesaf ac yn deall sut i ddatrys problemau. Ni fyddwn wedi teimlo mor hyderus â hynny gyn lleied â blwyddyn yn ôl.

Roeddwn yn ffodus o gael lle yma. Mae pawb mor wybodus ac mae fy mentor wedi bod yn torri cerrig ers 30 mlynedd bron.

Mae hynny'n beth prin. Mae'n anhygoel gallu gweithio gyda'r bobl hyn.

Yr hyn sy'n dod i'm meddwl yn aml yw, "byddet wedi gwirfoddoli i wneud y swydd hon, i ddysgu'r pethau hyn, a dyma ti yn cael dy dalu i'w gwneud".

Mae hynny'n fraint ac ni allwn fod wedi gwneud yr hyn rwyf yn ei wneud nawr heb gael prentisiaeth.