Mae plastrwr yn defnyddio plastr côt isaf a gorffen ar y tu mewn i eiddo, gallant hefyd wneud mowldiau ar gyfer ardaloedd addurnol megis nenfwd a waliau.
Mae'r plastrwr yn anhepgor i'r rhan fwyaf o weithfeydd domestig a masnachol, gan wneud waliau a nenfydau yn esmwyth ac yn barod i'w haddurno, ynghyd â llawer o ofynion eraill megis seinglosio a diddosi. Maent yn cymysgu ac yn gosod gwahanol fathau o blastr i waliau a nenfydau mewnol ac maent yn gorchuddio waliau allanol â haenau megis rendr tywod a sment, gro chwipio, deunyddiau ag effaith cerrig a hyd yn oed gorffeniadau a osodir â pheiriant.
Mae dau fath o blastrwr, Plastrwr Soled a Phlastrwr Ffeibrog, ond mae llawer yn gwneud y ddau. Mae plastro soled yn golygu gosod gorffeniadau gwlyb i arwynebau a rhoi gorchuddion amddiffynnol, megis gro chwipio ar waliau allanol. Mae plastro ffeibrog yn golygu creu gwaith plastr addurnol (fel rhosynnau a chornisiau nenfwd) gan ddefnyddio cymysgedd o blastr a ffibrau byr wedi'u siapio â mowldiau a chastiau.
Mae'r gystadleuaeth hon wedi'i chynllunio i adlewyrchu rôl plastrwr a'r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.
Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio trwy gydol y gystadleuaeth:
Gwybodaeth gyffredinol:
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu: