Trosolwg o gystadlaethau
2. Cofrestru
Bydd y cyfnod cofrestru’n agor ym mis Mawrth bob blwyddyn, drwy safle WorldSkills UK, er mwyn i gystadleuwyr allu gwneud eu dewisiadau ar gyfer Cystadlaethau Cymhwyso Rhanbarthol Adeiladu Sgiliau. Bydd cofrestrwyr llwyddiannus yn cael gwybod cyn gynted ag y bo modd ar ôl i’r cofrestru ddod i ben ddechrau mis Ebrill.
3. Cystadlaethau Cymhwyso Rhanbarthol
Rhwng mis Ebrill a diwedd mis Mehefin, bydd Cystadlaethau Cymhwyso Rhanbarthol Adeiladu Sgiliau yn cael eu cynnal ledled y DU. Gwahoddir yr wyth cystadleuydd sy’n cyflawni orau ym mhob sgil i gystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol Adeiladu Sgiliau y DU.
4. Rownd Derfynol Genedlaethol y DU
Mae’r pwysau’n cynyddu yn y rownd derfynol tri diwrnod, fel rhan o’r digwyddiad amlsector WorldSkills UK LIVE ym mis Tachwedd, gyda medalau a chanmoliaeth genedlaethol yn y fantol. Dim ond y cystadleuwyr cymwys gyda’r sgoriau uchaf sy’n cael mynd yn eu blaen i Garfan y DU a’r lefel ryngwladol.
5. Euroskills
Ar ôl cyfnod o hyfforddiant penodol, gallai aelodau Carfan y DU gael eu dewis i gystadlu yn eu sgiliau arbenigol, yn erbyn 28 o wledydd Ewrop, yn EuroSkills. Bydd cymhwyso i Garfan y DU ar gyfer EuroSkills, St Petersburgh yn 2022, yn seiliedig ar enillwyr medalau Adeiladu Sgiliau 2020 a 2021.
6. Worldskills
Cam olaf y daith hon yw i gystadleuwyr Adeiladu Sgiliau gyrraedd cam rhyngwladol llawn WorldSkills – y ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ – lle bydd unigolion elit yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth fyd-eang, a phob un yn ymdrechu i fod y ‘Gorau yn y Byd’. Mae siawns gan enillwyr medalau Adeiladu Sgiliau 2020 a 2021 i gystadlu yn WorldSkills Lyon yn 2023.
Dysgwch bopeth y mae angen i chi ei wybod am bob un o gategorïau unigol y gystadleuaeth Adeiladu Sgiliau:
(DU) – y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn y DU yn unig
(ES) - y gystadleuaeth yn gymwys ar gyfer EuroSkills
(WS) - y gystadleuaeth yn gymwys ar gyfer WorldSkills
Gosod brics
(DU) (ES) (WS)
Gwaith coed
(DU) (WS)
Creu Dodrefn a Chabinetau
(DU) (ES) (WS)
Saernïaeth
(DU) (ES) (WS)
Peintio ac Addurno
(DU) (ES) (WS)
Plastro
(DU)
Plastro a systemau Wal Sych
(DU) (ES) (WS)
Toi gyda Llechi a Theils
(DU)
Gwaith saer maen
(DU) (ES) (WS)
Teilsio Waliau a Lloriau
(DU) (ES) (WS)