Partneriaid
WorldSkills UK
Partneriaeth rhwng busnes, addysg a llywodraethau yw WorldSkills UK, sy’n helpu pob person ifanc i fynd ymhellach, yn gyflymach yn eu gyrfaoedd, ac i ennill y sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen fwyaf.
Mae WorldSkills UK yn trefnu cystadlaethau sgiliau i ddod â phrentisiaid a dysgwyr o bob cwr o'r wlad at ei gilydd i fod y gorau yn y sgil maent wedi’i dewis. Mae’r rhai sy’n cyrraedd y brig yng Nghystadlaethau WorldSkills UK yn cael hyfforddiant technegol a hyfforddiant meddylfryd dwys pellach i’w paratoi ar gyfer cystadlaethau rhyngwladol.
Mae cystadlaethau’n annog prentisiaid a dysgwyr heddiw i fod yn uchelgeisiol wrth geisio cyflawni rhagoriaeth, ac yn darparu sgiliau gydol oes o’r radd flaenaf iddynt. Byddant yn mireinio’r sgiliau a fydd yn eu helpu i ddatblygu’n weithwyr a mentoriaid gwerthfawr.
Mae’r cystadlaethau o fudd i bobl ifanc
- Eu rhoi ar y llwybr carlam ar ddechrau eu gyrfaoedd
- Eu hysbrydoli i ddilyn prentisiaethau ac addysg dechnegol
- Hyrwyddo eu llwyddiant
- Cyflymu eu datblygiad personol a phroffesiynol
Gall cyflogwyr gofrestru eu prentisiaid a’u gweithwyr ifanc mewn cystadlaethau.

Mae gweithio mewn partneriaeth ag Adeiladu Sgiliau yn ein galluogi i arddangos y doniau ifanc yn niwydiant adeiladu’r DU, a hefyd yn ein galluogi i feincnodi sgiliau cyflogadwyedd ein prentisiaid gyda rhai o weddill Ewrop a ledled y byd. Dyma’r wybodaeth a fydd yn sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael y sgiliau iawn i helpu busnesau yn y DU i gystadlu’n well yn fyd-eang.
Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Chief Executive, WorldSkills UK