Facebook Pixel

Trosolwg o’r gystadleuaeth gosod brics

Mae bricwyr yn adeiladu ffabrig allanol adeiladau gyda brics neu flociau concrid, ac fe fydd yn gallu dal pwysau neu weithredu fel cladin diddos addurnol ar adeiladau ffrâm dur neu goncrid.

Mae bricwyr yn gosod brics, cerrig wedi'u torri ymlaen llaw, blociau concrid a mathau eraill o flociau adeiladu mewn morter i adeiladu a thrwsio waliau, sylfeini, parwydydd, bwâu a strwythurau eraill, gan weithio mewn mannau uchel neu mewn twneli a siafftiau. Gosod brics yw un o'r crefftau adeiladu mwyaf amrywiol a gallai bricwyr weithio ar nifer o brosiectau o greu heulfan sengl i adeiladu cartrefi newydd sbon neu ddatblygiadau masnachol mawr.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl briciwr a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.


Trosolwg o'r gystadleuaeth

Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:

  • Mae cystadleuwyr yn gweithio â dim goddefiant - dyfernir 10 marc ar gyfer pob agwedd, a thynnir un marc ar gyfer pob milimedr sy'n wallus
  • Bydd cystadleuwyr yn ennill marciau am leoli dimensiynol, mesur, lefelu, plymio, alinio, sgwario, manylion nodweddion estynedig a chilannol, gorffeniad uniadau, cydymffurfio â dyluniad, glendid gwaith wyneb a dulliau gwaith
  • Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny

Cyfarwyddiadau cyffredinol:

  • Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 6 awr
  • Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr

Cymwyseddau craidd

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Darllen, deall a gallu dehongli tafluniad orthograffig a fformatau lluniadu eraill, yn ogystal â manylebau
  • Cynllunio a threfnu gwaith ac adnoddau
  • Arddangos gallu i reoli amser yn effeithiol
  • Cymryd dimensiynau o luniadau, gosod allan yn gywir, a mesur cydrannau'n gywir i'w torri
  • Defnyddio offer llaw amrywiol yn ogystal â chymhorthion adeiladu a pheiriannau mecanyddol ar gyfer torri brics (dan oruchwyliaeth)
  • Gosod gwaith brics addurnol a manwl ar wahanol ffurfiau, gan gynnwys gwaith rheiddiol ar gynllun a gweddlun, gwaith onglog ac ar oleddf, paneli addurnol, strapwaith ac agweddau amrywiol ar waith brics aml-liwiog
  • Cynhyrchu amrywiaeth o orffeniadau uniadau i safon uchel
  • Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
  • Gweithio mewn modd diogel
Dyluniwyd y wefan gan S8080