Facebook Pixel

Gwaith coed

Mae saer yn torri, yn ffitio ac yn cydosod pren ar gyfer adeiladu fframweithiau, drysau, ffenestri, lloriau, grisiau a phaneli ar brosiectau masnachol a phreswyl.

Mae seiri yn gwneud ac yn gosod gosodiadau a ffitiadau pren fel rhan o brosiectau adeiladu. Mae saer yn grefftwr hyfforddedig sy'n fedrus mewn gwaith coed. Mae ef neu hi'n mesur, marcio, torri, siapio, ffitio a gorffen pren, naill ai â llaw neu ag offer pŵer.

Mae pren yn rhan hanfodol o'r rhan fwyaf o adeiladau, ac mae gweithio gyda choed yn cynnwys gweithio ar doeau, lloriau a waliau. Bydd y rhan fwyaf o brosiectau adeiladu angen seiri, felly gall y swydd fynd â nhw i unrhyw le, o gartrefi ac eiddo masnachol i safleoedd adeiladu.

Mae'r math yma o rôl yn golygu llawer o gyfrifoldeb ac mae'n greadigol iawn, ac mae seiri'n cael cyfle i weithio ar amrywiaeth eang o brosiectau. Mae saer medrus yn aml yn hanfodol i adfer ac ail-greu adeiladau hanesyddol fel rhan o brosiectau treftadaeth diddorol. Arbenigaeth arall y seiri yw darparu elfennau pren ar gyfer cynhalbyst concrid cymhleth.

Mae gwaith coed yn rôl grefftus yn y diwydiant adeiladu, felly mae gwybodaeth ragorol am bren yn ogystal â’r mathau a’r defnydd gwahanol yn bwysig, yn ogystal â gwybod sut y bydd y cynnyrch gorffenedig yn ffitio mewn tŷ neu adeilad.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl saer a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.


Trosolwg o'r gystadleuaeth

Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:

  • Mae cystadleuwyr yn gweithio at oddefiant o lai na 0.5mm
  • Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny

Cyfarwyddiadau cyffredinol:

  • Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 6 awr
  • Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr

Cymwyseddau craidd

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Dilyn cyfarwyddiadau
  • Dehongli lluniadau a manylebau
  • Dewis deunyddiau a gosodiadau priodol
  • Gosod prosiectau ar eu maint llawn i bennu union siâp y rhannau ar lethr
  • Marcio pren hyd at oddefiant o lai na 0.5mm
  • Siapio’r pren gyda llifiau, cynion a phlanau
  • Cydosod y prosiect yn gywir gan ddefnyddio sgriwiau
  • Gweithio'n effeithlon, gyda chyn lleied o wastraff â phosibl a dim darnau amnewid
  • Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
  • Gweithio mewn modd diogel
Dyluniwyd y wefan gan S8080