Facebook Pixel

Trosolwg o’r gystadleuaeth peintio ac addurno

Mae peintiwr ac addurnwr yn gweithio gyda phob ffabrig a phaent i gael gorffeniad o safon uchel, gan weithio y tu mewn a’r tu allan i eiddo.

Mae peintiwr ac addurnwr yn gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau peintio ac addurno sy’n amrywio o adnewyddu tai i godi adeiladau newydd, i waith cymhleth fel peintio pontydd, neu gynnal adeiladau hanesyddol. Mae peintiwr ac addurnwr yn gwneud waliau a nenfydau’n daclus ac yn ddeniadol, gan ddefnyddio amrywiaeth o systemau, papur wal a gorffeniadau eraill.

Mae’n un o’r crefftau adeiladu y mae’r galw mwyaf amdani, a bydd angen i chi feistroli amryw o dechnegau i wneud i lefydd edrych yn dda, gan hyfforddi mewn sgiliau newydd drwy gydol eich gyrfa. Mae technegau arbenigol yn cynnwys defnyddio gorffeniadau paent addurnol fel stensiliau, gwydro lliwiau, graeniad, marmori a llythrennau.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi cael ei dylunio i adlewyrchu rôl peintiwr ac addurnwr a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.


Trosolwg o’r gystadleuaeth

Bydd y cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:

  • Y gallu i weithio ar sail goddefiant milimetrau
  • Bydd y dyluniad yn cael ei farcio o ran cywirdeb, tywyllni, cynildeb ac ansawdd
  • Bydd cystadleuwyr yn colli marciau am fesuriadau anghywir, a gorffeniad gwael
  • Rhaid i gystadleuwyr weithio’n ddiogel a byddant yn colli marciau os na fyddant yn cadw at hyn

Gwybodaeth gyffredinol:

  • Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg yw 6 awr
  • Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, 18 awr yw’r amser hiraf y gellir gweithio ar y dasg

Cymwyseddau craidd

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu:

  • Gweithio o ddarluniau drwy gymryd mesuriadau cywir i bennu’r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y darn cystadlu
  • Gosod papur wal
  • Arddangos sgiliau peintio rhagorol
  • Gweithio hyd at oddefgarwch milimetrau
  • Cadw’r ardal waith yn lân a thaclus
  • Gweithio mewn ffordd ddiogel
Dyluniwyd y wefan gan S8080