Facebook Pixel

Trosolwg o’r gystadleuaeth teilsio waliau a lloriau

Mae teilswyr waliau a lloriau yn addurno, yn gwella ac yn diogelu adeiladau gorffenedig â theils. Gellir gwneud teils o lawer o ddeunyddiau gwahanol fel terracotta, porslen a cherrig naturiol gan gynnwys marmor, yn ogystal â serameg.

Mae teilsiwr waliau a lloriau yn gosod amrywiaeth o deils seramig ar waliau ac arwynebau llawr.  Gallai teilswyr waliau a lloriau osod teils mewn nifer o leoliadau megis ceginau, ystafelloedd ymolchi, siopau, gwestai, bwytai, ystafelloedd arddangos ceir, eglwysi, pyllau nofio, mannau sba. Mae angen i deilswyr fod yn fedrus ynghylch gosod, paratoi'r arwyneb i'w deilsio, a thorri teils i faint neu siâp penodol gyda thorwyr llaw neu offer sydd wedi'u gosod ar fainc. Ar ôl i deils gael eu gosod ar arwyneb mae angen eu growtio a'u caboli i gwblhau'r gwaith.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl teilsiwr waliau a lloriau a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.


Trosolwg o'r gystadleuaeth

Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:

  • Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny

Gwybodaeth gyffredinol:

  • Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 6 awr
  • Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr

Cymwyseddau craidd

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Dehongli lluniadau a manylebau i gynnwys cynlluniau, gweddluniau, adrannau a manylion wedi'u chwyddo
  • Paratoi'r cefndiroedd cyn gosod teils
  • Rhoi glud ar arwynebau'r waliau a lloriau
  • Mesur, cyfrifo, marcio a thorri teils
  • Gosod teils addurnol ar arwyneb byrddau plastr a phren haenog
  • Arddangos gwybodaeth o brosesau geometrig
  • Uniadu a growtio
  • Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
  • Gweithio mewn modd diogel

 

Dyluniwyd y wefan gan S8080