Facebook Pixel

Gwneud dodrefn

Mae saer dodrefn yn arbenigo mewn gwneud dodrefn o bren i fanylebau uchel iawn.

Mae seiri dodrefn yn gwneud neu'n atgyweirio dodrefn o bren solet neu gynhyrchion wedi'u seilio ar bren. Efallai y bydd seiri dodrefn yn arbenigo mewn meysydd penodol megis dylunio pwrpasol ac ail-gynhyrchu hen ddodrefn, dodrefn ffitiadau, dodrefn swyddfa, ffitiadau siop a dodrefn wedi’i swp-gynhyrchu. Bydd seiri dodrefn yn defnyddio amrywiaeth o offer llaw a pheiriannau gwaith coed, fel llifiau pŵer, plaeniau uniadu a morteiswyr i arwynebu, torri, neu siapio pren neu gynhyrchion wedi'u seilio ar bren er mwyn gwneud dodrefn.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi’i chynllunio i adlewyrchu rôl saer dodrefn a’r safonau a ddisgwylir yn y diwydiant adeiladu.


Trosolwg o'r gystadleuaeth:

Bydd cystadleuwyr yn cael eu marcio drwy gydol y gystadleuaeth:

  • Bydd cystadleuwyr yn gallu gweithio o fewn 0.9mm ar ddimensiynau ac yn agosach wrth ffitio uniadau
  • Bydd cystadleuwyr yn ennill marciau am farcio’n gywir hyd at safonau cydnabyddedig, torri a ffitio uniadau'n lân a chrimp, siapio pren gan ddefnyddio ystod o blanau a pharatoi'r pren i sicrhau gorffeniad
  • Bydd cystadleuwyr yn colli marciau am uniadau sy'n rhydd, arwynebau garw ar uniadau, sgiliau cynllunio a gorffen gwael
  • Mae'n rhaid i gystadleuwyr weithio mewn modd diogel a byddant yn colli marciau os na wneir hynny

Cyfarwyddiadau cyffredinol:

  • Yn y Rowndiau Cymhwyso Rhanbarthol, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 6 awr
  • Yn Rownd Derfynol Genedlaethol y DU, yr uchafswm amser gweithio ar gyfer y dasg yw 18 awr

Cymwyseddau craidd

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Dehongli darluniau
  • Marcio pren yn gywir cyn gweithio arno
  • Torri pren â llifiau a chynion
  • Torri a siapio deunyddiau gydag offer llaw a pheiriant
  • Rhoi cynhyrchion gorffenedig at ei gilydd
  • Gweithio o fewn 0.9mm ar ddimensiynau ac yn agosach wrth ffitio uniadau
  • Cadw'r ardal waith yn lân a thaclus
  • Gweithio mewn modd diogel
Dyluniwyd y wefan gan S8080