Archwilio Adeiladu Tai
Enw’r Gweithgaredd:
Archwilio Adeiladu Tai
Disgrifiad o’r Gweithgaredd:
Nod y rhaglen yw dod â byd adeiladu tai yn fyw drwy weithgarwch adeiladu tai rhyngweithiol, ysgogol, gan ddatrys problem ‘go iawn’ sy’n ymwneud ag adeiladu tai a defnyddio STEM mewn ffordd ymarferol, sy’n gysylltiedig â gwaith.
Cafodd y rhaglen chwe wythnos hon ei chynllunio a’i datblygu gan Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi (HBF) a thîm Am Adeiladu.
Nod y Gweithgaredd:
Codi ymwybyddiaeth o’r diwydiant adeiladu tai, a’r gyrfaoedd amrywiol a gwerth chweil y gall y sector eu cynnig, sy’n seiliedig ar STEM.
Datblygu gwybodaeth cyfranogwyr am y deunyddiau, y cynnyrch, y technolegau a’r addasiadau cynaliadwy a ddefnyddir wrth adeiladu tai.
Defnyddio sgiliau mathemategol i lunio dalen dendro a gweithgareddau ymestyn dewisol eraill e.e. dylunio mewnol.
Defnyddio gwybodaeth, astudiaethau a phrofiad sy’n seiliedig ar STEM i ddatrys problem ddifrifol sy’n ymwneud â’r sector adeiladu tai.
Cynulleidfa (oedran a argymhellir):
11 oed - oedolyn (gellir ei addasu ar gyfer cynulleidfaoedd iau)
Maint y grŵp:
Yn ddelfrydol, dylai cyfranogwyr weithio mewn grwpiau o 4-6 o bobl.

Dogfennau i’w Llwytho i lawr
Llwytho Pob Dogfen i Lawr:
Archwilio Adeiladu Tai - Pob Dogfen