Enw'r Gweithgaredd:
Byw'n Wyrdd
Disgrifiad o'r Gweithgaredd:
Mae Byw'n Wyrdd yn weithgaredd tîm sy'n ystyried effaith datblygiadau tai ar yr amgylchedd a'r gymuned.
Bydd cyfranogwyr yn dylunio ac yn cynhyrchu model o ddatblygiad tai cymysg cynaliadwy yn ogystal â llunio dogfen dendr a chyflwyno eu syniadau.
Nodau'r Gweithgaredd: Annog cyfranogwyr i ystyried rhai o'r themâu allweddol sydd ynghlwm wrth ddylunio cynaliadwy, yn ogystal â chyflwyno cyfranogwyr i rai o'r gyrfaoedd proffesiynol a rheoli yn y diwydiant adeiladu.
Rhoddir pwyslais ar waith tîm, rheoli amser, cyllid a sgiliau cyflwyno.
Cynulleidfa (Oedran Delfrydol):
- Oedran 11- oedolion
- Gall y gweithgaredd gael ei addasu ar gyfer cynulleidfaoedd iau

Maint y Grŵp: Dylai cyfranogwyr weithio mewn grwpiau o 4 – 6 o bobl.
Cyfyngir ar faint cyffredinol y grŵp gan yr amser sydd ei angen ar bob un i wneud cyflwyniad dwy funud.
Rhagor o Wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd gweler Dalen Flaen y Gweithgaredd sy'n darparu gwybodaeth am y canlynol:
- Gwaith Paratoi ac Adnoddau Angenrheidiol
- Dolenni Cwricwlwm/Sector/Sgiliau Cyflogadwyedd
- Gweithgareddau Ymestynnol
- Amserlen Arfaethedig
Lawrlwytho Dogfennau
Gwybodaeth Gyffredinol am y Gweithgaredd:
Arweinydd y Gweithgaredd
Byw'n Wyrdd - Cyflwyniad Power Point (nodiadau Arweinydd y Gweithgaredd)
LAWRLWYTHO