Enw'r Gweithgaredd:
Her Am Adeiladu Pont
Disgrifiad o'r Gweithgaredd:
Gweithgaredd adeiladu pont syml sy'n tynnu sylw at y gwahanol fathau o bontydd ac yn canolbwyntio ar rôl peirianwyr sifil. Mae angen i'r pontydd gario pwysau a char tegan bach.
Nodau'r Gweithgaredd:
- Dysgu mwy am bontydd ac adeiladu pontydd
- Codi ymwybyddiaeth o beirianneg sifil a sut mae'r rôl hon yn gweddu i sbectrwm ehangach y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig
- Rhoi pwyslais ar waith tîm a grwpiau bach, rheoli amser a gweithio gydag adnoddau prin
Cynulleidfa (Oedran Delfrydol):
- Rhwng 11 a 16
- Bydd y syniadau ymestynnol yn gwneud y gweithgaredd hwn yn fwy heriol ac yn addas i gynulleidfaoedd hŷn.

Maint y Grŵp: Yn ddelfrydol, dylai cyfranogwyr weithio mewn grwpiau bach o 2-4 o bobl, ond nid oes cyfyngiad ar faint cyffredinol y grŵp.
Rhagor o Wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd gweler Dalen Flaen y Gweithgaredd sy'n darparu gwybodaeth am y canlynol:
- Gwaith Paratoi ac Adnoddau Angenrheidiol
- Dolenni Cwricwlwm/Sector/Sgiliau Cyflogadwyedd
- Gweithgareddau Ymestynnol
- Amserlen Arfaethedig