Enw'r gweithgaredd:
Her Ciwb Sgaffaldiau
Disgrifiad o'r gweithgaredd:
Mae'r gweithgaredd Ciwb Sgaffaldiau yn weithgaredd rhyngweithiol ac ymarferol sy'n helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o'r defnydd a wneir o sgaffaldiau a'u pwysigrwydd a'u cymhlethdodau yn y sector adeiladu.
Nod y gweithgaredd:
Mae'r gweithgaredd Ciwb Sgaffaldiau yn weithgaredd rhyngweithiol ac ymarferol sy'n galluogi cyfranogwyr 14 oed a throsodd i feithrin gwell dealltwriaeth o'r defnydd a wneir o sgaffaldiau a'u pwysigrwydd a'u cymhlethdodau yn y sector adeiladu. Gan ddefnyddio sgiliau allweddol fel gweithio mewn tîm a dilyn cyfarwyddiadau, bydd cyfranogwyr yn adeiladu ciwb sgaffaldiau gan ddefnyddio pibelli PVC a chlymau cebl, gan brofi'r weithdrefn gywir ar gyfer adeiladu strwythurau sgaffaldio diogel a dysgu'r derminoleg gywir. Mae'r gweithgaredd hefyd yn rhoi cyfle i'r cyfranogwyr ddysgu mwy am y byd adeiladu a gyrfa ym maes sgaffaldio yn benodol.

Hyfforddiant Sgaffaldiau CISRS
Canllaw cam wrth gam ar adeiladu'r ciwb sgaffaldiau.
Gwyliwch ragor o fideos ar sianel YouTube NASCLondon.
Ffilm CISRS
Ffilm hyrwyddo newydd gan Gynllun Cofnodi Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu (CISRS) sydd â'r nod o ddenu pobl i ddilyn gyrfa sy'n llawn boddhad ym maes sgaffaldio drwy gynllun hyfforddi CISRS.
Gwyliwch ragor o fideos ar sianel YouTube NASCLondon.