Enw'r Gweithgaredd:
Her Cymunedau Cynaliadwy CREST – Lefel Efydd
Disgrifiad o'r Gweithgaredd:
Mae Her Cymunedau Cynaliadwy CREST yn weithgaredd tîm cyffrous, llawn boddhad lle mae'n rhaid cynllunio datblygiad tai cynaliadwy
I gael y dechreuad gorau posibl, dylai'r prosiect ddechrau drwy ymweld â safle go iawn.
Bydd angen i aelodau'r tîm gael cymorth mentor, a all ddod o'r diwydiant neu fel arall fod yn arweinydd gweithgaredd neu grŵp.

Dyma fideo byr yn egluro Gwobr CREST am Gymunedau Cynaliadwy Lefel Efydd.
LAWRLWYTHONodau'r Gweithgaredd: Nod Gwobrau CREST yw codi ymwybyddiaeth o bynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymhlith pobl ifanc a thynnu sylw at ba yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu sy'n gysylltiedig â'r pynciau hyn.
Erbyn diwedd y prosiect dylai aelodau'r tîm fod wedi llunio cynnig ar gyfer eu datblygiad tai ynghyd ag adroddiad myfyriol unigol ar yr hyn a ddysgwyd ganddynt yn ystod y broses. Dylent hefyd amlinellu rôl pob aelod o'r tîm a sut y gwnaeth y rolau ategu ei gilydd wrth ddiffinio a chwblhau cynnig y tîm.
Cynulleidfa: (Oedran Delfrydol) Rhwng 11 ac 16 oed
Maint y Grŵp: Nid oes uchafswm grŵp yn gyffredinol, ond efallai y bydd angen i gwmnïau adeiladu sy'n cynnal ymweliadau â'u safleoedd gyfyngu ar y nifer a ddaw i safle gweithredol ar unrhyw un adeg. Blaengynlluniwch er mwyn sicrhau bod ymweliadau yn cael eu trefnu a'u hystyried yn dda.
Rhagor o Wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd gweler Dalen Flaen y Gweithgaredd sy'n darparu gwybodaeth am y canlynol:
-
Gwaith Paratoi ac Adnoddau Angenrheidiol
-
Dolenni Cwricwlwm/Sector/Sgiliau Cyflogadwyedd
-
Gweithgareddau Ymestynnol
-
Amserlen Arfaethedig
Lawrlwytho Dogfennau
Gwybodaeth Gyffredinol am y Gweithgaredd:
Cyflogwyr:
Her Cymunedau Cynaliadwy CREST – Canllaw i Gyflogwyr ar Ymweliadau Safle
LAWRLWYTHOArweinydd y Gweithgaredd:
Her Cymunedau Cynaliadwy CREST – Briff ar Ymweliadau Safle i Arweinwyr y Gweithgaredd
LAWRLWYTHOCymunedau Cynaliadwy - Canllaw ar Ddogfennau CREST (Saesneg yn unig)
LAWRLWYTHO