Enw'r Gweithgaredd:
Her Tŵr o Frics
Disgrifiad o'r Gweithgaredd:
Mae hwn yn weithgaredd tîm cyffrous lle bydd cyfranogwyr yn chwarae rôl cwmni adeiladu bach er mwyn cynllunio, dylunio, costio (tendr) ac adeiladu tŵr o frics Lego.
Bydd y gweithgaredd yn dechrau gyda chyflwyniad powerpoint sy'n arwain at drafodaeth am waith dylunio adeiladu tŵr a'r defnydd a wneir o dŵr, yn ogystal ag ystyried gyrfaoedd adeiladu a sgiliau mentergarwch.
Nodau'r Gweithgaredd:
- Hyrwyddo gwaith tîm a sgiliau datrys problemau a chyfathrebu drwy prosiect efelychu adeiladu
- Ystyried gyrfaoedd adeiladu
- Cyflwyno sgiliau mentergarwch ar ffurf costau, tendrau ac elw.
Cynulleidfa (Oedran Delfrydol): Rhwng 11 ac 16

Maint y Grŵp: Mae cyfanswm o 30 o bobl gyda chwe thîm o bump yn ddelfrydol, ond bydd yr ymarfer yn gweithio gyda llai neu fwy o bobl yn dibynnu ar yr amser a'r adnoddau sydd ar gael (yn enwedig y Lego).
Rhagor o Wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd gweler Dalen Flaen y Gweithgaredd sy'n darparu gwybodaeth am y canlynol:
- Gwaith Paratoi ac Adnoddau Angenrheidiol
- Dolenni Cwricwlwm/Sector/Sgiliau Cyflogadwyedd
- Gweithgareddau Ymestynnol
- Amserlen Arfaethedig