Canllaw ar ddefnyddio Gweithgareddau ac Adnoddau Am Adeiladu
Caiff yr adnoddau sydd ar gael i chi eu lawrlwytho eu darparu gyda chaniatâd caredig ystod eang o sefydliadau. Cewch eu defnyddio yn rhad ac am ddim, ac rydym yn awyddus iddynt gael eu defnyddio gymaint â phosibl er mwyn datblygu gwir ddealltwriaeth o'r her a'r amrywiaeth y gall gyrfa yn y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig eu cynnig.
Yr unig beth a ofynnwn yw eich bod yn defnyddio'r adnoddau yn unol â'r hyn a amlinellir isod a'r cytundeb telerau defnyddio.
- Mae'n bosibl y caiff y cynnwys ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y fersiwn fwyaf diweddar yn uniongyrchol o'r wefan yn hytrach na defnyddio dogfennau a gafodd eu lawrlwytho o'r blaen.
- Wrth ddefnyddio'r deunydd hwn, dylech gydnabod www.goconstruct.org ac annog pobl i'w defnyddio.
- Er mwyn i ni allu monitro'r ffordd y caiff yr adnoddau hyn eu defnyddio, a'u datblygu ymhellach yn y dyfodol, dim ond er mwyn cael gafael ar ddeunydd i helpu gwaith eich sefydliad y dylech ddefnyddio eich manylion mewngofnodi. Anogwch bobl eraill i greu eu manylion mewngofnodi eu hunain.
Efallai y bydd y wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i chi er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer rhoi gweithgaredd neu adnodd Am Adeiladu ar waith:
Gweithgareddau:
- Sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'r gweithgaredd drwy ddarllen Dalen Flaen y Gweithgaredd a holl ddogfennau'r gweithgaredd
- Mae Dalen Flaen y Gweithgaredd yn cynnwys crynodeb o'r gweithgareddau sydd ar gael er mwyn eich helpu i ddewis y gweithgaredd mwyaf addas ar gyfer main/oedran/gallu/ffocws eich grŵp. Mae pob dalen flaen yn amlinellu manylion y canlynol, lle y bo'n briodol:
- Disgrifiad o'r Gweithgaredd
- Nodau'r Gweithgaredd
- Hyd y Gweithgaredd
- Gwaith Paratoi Angenrheidiol
- Syniadau Ymestynnol
- Maint y Grŵp
- Cynulleidfa
- Adnoddau Angenrheidiol
- Rhestr Dogfennau (dogfennau y gall fod angen eu hargraffu/llungopïo)
- Sgiliau Cyflogadwyedd Cysylltiedig
- Cysylltiadau â'r Cwricwlwm
- Cysylltiadau â'r Sector Adeiladu
Rhestr Wirio Arweinydd y Gweithgaredd:
- Sicrhewch eich bod yn gwybod lleoliad a manylion parcio'r sefydliad sy'n cynnal y gweithgaredd
- Sicrhewch eich bod yn gwybod faint o'r gloch y cewch fynediad i'r lleoliad, ac amseroedd dechrau a gorffen y gweithgaredd
- Sicrhewch eich bod yn gwybod maint grŵp, ystod oedran a (lle y bo modd) lefel gallu'r cyfranogwyr.
- Sicrhewch eich bod wedi ystyried materion diogelu wrth weithio gyda phobl ifanc ac oedolion agored i niwed.
- Sicrhewch fod gennych ystafell addas sy'n cynnwys y dodrefn a'r offer sydd eu hangen arnoch.
- Sicrhewch eich bod wedi paratoi'r deunyddiau ac unrhyw offer sydd ei angen arnoch i gynnal y gweithgaredd. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon ar gyfer maint y grŵp.
- Holwch i weld a oes cymorth ar gael ar gyfer grwpiau mawr ac yn enwedig ar gyfer cyfranogwyr â gofynion dysgu ychwanegol.
- Os nad ydych yn Llysgennad Adeiladu, byddai'r gweithgareddau'n elwa'n fawr o wybodaeth a phrofiad ychwanegol Llysgenhadon Adeiladu. Dylid eu hannog i rannu straeon eu gyrfaoedd cyn, yn ystod neu ar ôl y gweithgaredd. Anfonwch e-bost i experience@goconstruct.org er mwyn gwneud cais am gymorth.
- Os ydych yn bwriadu tynnu lluniau, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael caniatâd ymlaen llaw.
- Mae rhai o'r gweithgareddau yn gystadleuol, felly efallai y byddwch yn dymuno rhoi gwobrau bach, er enghraifft rhoddion gan y cwmni
- Bydd rhai cyfranogwyr yn gorffen yn gynharach nag eraill, felly efallai y byddwch yn dymuno paratoi gweithgaredd bach arall ar gyfer y rheini sy'n gorffen yn gynnar, er enghraifft croeseiriau neu gwisiau am y sector.
- Defnyddiwch iaith syml, glir lle y bo modd wrth gynnal y gweithgaredd. Os byddwch yn defnyddio iaith fusnes, iaith y diwydiant neu iaith dechnegol a/neu fyrfoddau, esboniwch beth maent yn ei olygu.
Cyngor ar yswiriant i Lysgenhadon Adeiladu:
Mae yswiriant yn bwysig, ond nid oes yn rhaid iddo fod yn gymhleth. Dyma amlinelliad cryno o'r prif bwyntiau i lysgenhadon.
- Os yw'r cyflogwr yn rhyddhau'r unigolyn yn swyddogol i fod yn bresennol mewn digwyddiad, dylai yswiriant y cyflogwr roi sicrwydd iddynt.
- Os yw'r llysgenhadon mewn digwyddiad na chafodd ei drefnu gan eu sefydliad, dylai yswiriant y digwyddiad a/neu'r lleoliad fod yn gymwys (yn ddelfrydol, dylai llysgenhadon holi i wneud yn siŵr bod gan y trefnwyr yswiriant priodol).
- Os nad yw'r llysgenhadon wedi cael eu rhyddhau'n swyddogol i gynrychioli eu cyflogwr neu weithio ar ei ran, mae'n bosibl y bydd hyn yn broblem, ond yn y digwyddiad dylai yswiriant y trefnydd a/neu'r lleoliad fod yn gymwys.
Cyfrifoldeb:
Bydd cyflogwyr yn rhoi sicrwydd yswiriant i lysgenhadon o dan eu hyswiriant eu hunain os ydych yn gweithio neu'n gwirfoddoli o dan eu cyfarwyddyd ac yn ystod eu horiau gwaith arferol.
Os ydych yn gweithio i sefydliad arall, naill ai fel cyflogai neu wirfoddolwr, byddai eu hyswiriant yn ymestyn i roi sicrwydd i chi. Gallech fod mewn sefyllfa lle mae gennych sicrwydd gan yswiriant eich cyflogwr ac yswiriant y sefydliad arall.
Cadw pobl ifanc yn ddiogel:
Fel llysgennad i'r diwydiant adeiladu, bydd disgwyl bod gennych ddealltwriaeth gadarn o iechyd a diogelwch a'ch bod yn gallu defnyddio'r ddealltwriaeth honno i gadw pobl ifanc sydd dan eich goruchwyliaeth yn ddiogel. Dylech allu gwneud y canlynol:
- diogelu pobl ifanc rhag cam-drin neu niwed i'w hiechyd neu'u datblygiad
- sicrhau bod pobl ifanc yn dysgu mewn lle diogel