Facebook Pixel

Sut i wneud cais am brentisiaeth?

Person writing out application for an apprenticeship

Mae miloedd o gyfleoedd i chi ddod o hyd i brentisiaethau a gwneud cais amdanynt, boed hynny ar-lein, wyneb yn wyneb neu glywed amdanynt ar lafar.

I ennill cyflog wrth ddysgu mewn prentisiaeth, bydd angen i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn, yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban ac nid mewn addysg amser llawn.

I wneud cais llwyddiannus, bydd angen i chi gael CV prentisiaeth a llythyr eglurhaol da.   

Sut mae chwilio am brentisiaeth?

Mae llawer o ffyrdd o chwilio am brentisiaeth addas.

  • Un o’r gwefannau gorau i chwilio am brentisiaethau sy’n wag ar hyn o bryd yw Talentview. Gallwch chi hidlo eich chwiliadau yn ôl swydd, lleoliad a lefelau prentisiaeth penodol
  • Ewch at fusnesau bach neu fawr neu gwmnïau lleol i weld a ydyn nhw’n fodlon eich cyflogi chi. Edrychwch ar gyfleoedd prentisiaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban drwy ddilyn y dolenni isod
  • Mae’r Llywodraeth yn rhedeg Gwasanaeth Prentisiaethau, lle gallwch chi chwilio am gyfleoedd prentisiaeth ar-lein
  • Gallwch chi hefyd gofrestru gyda safleoedd swyddi fel Indeed neu TotalJobs. Byddwch chi’n gallu llwytho eich CV i fyny a gosod hysbysiadau swyddi i’ch helpu chi i ddod o hyd i gyfleoedd addas. Bydd cyflogwyr hefyd yn gallu cysylltu â chi’n uniongyrchol
  • Edrychwch ar yr adrannau prentisiaethau neu swyddi gwag ar wefannau cwmnïau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Gallwch chi hefyd eu dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf
  • Cysylltwch â cholegau lleol, darparwyr hyfforddiant arbenigol neu asiantaethau rheoli prentisiaethau i gofrestru eich diddordeb. Efallai y gallan nhw eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
  • Gofynnwch i’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion i weld a oes ganddyn nhw unrhyw gyfleoedd prentisiaeth yn eu mannau gwaith.

Beth ddylech chi ei gynnwys yn eich cais?

CV

CV cryf yw un o’r prif flaenoriaethau wrth i chi wneud cais am brentisiaeth. Dyma’r ffordd orau i chi greu argraff gyntaf dda ar gyflogwr. Bydd llawer o brentisiaethau sy’n cael eu hysbysebu ar-lein yn gofyn i chi lwytho CV i fyny fel rhan o’r broses ymgeisio.

Llythyr eglurhaol

Y peth hanfodol am lythyr eglurhaol da yw ei fod yn rhoi hanes eich CV – lle rydych chi’n dangos sut y gall eich profiad a’ch sgiliau eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwr. Ceisiwch ei gadw i bedwar paragraff ac un ochr o bapur A4.

Dod o hyd i brentisiaeth

Dyluniwyd y wefan gan S8080