Facebook Pixel

Archaeolegydd

Mae archeolegwyr yn cynyddu ein dealltwriaeth o'r gorffennol dynol trwy ddadorchuddio ac amddiffyn olion ac arteffactau. Bydd y rhain yn cael eu dadorchuddio’n aml ar safleoedd adeiladu a bydd archeolegwyr yn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a gellir eu hychwanegu at y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol. Fel archeolegydd, byddwch yn ymwneud â’r prosiect yn ystod y cyfnod cynllunio. Gallech gynnal ymchwil gychwynnol a gwaith cloddio archwiliadol cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau er mwyn diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

39-41

Sut i ddod yn archeolegydd

Mae yna sawl llwybr i ddod yn archeolegydd. Gallwch ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth. 

Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy'n iawn i chi. 

Efallai bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Mae gan y mwyafrif o archeolegwyr proffesiynol radd israddedig. Mae'r pynciau perthnasol yn cynnwys:

  • Archeoleg
  • Cadwraeth
  • Hanes hynafol
  • Rheoli treftadaeth
  • Astudiaethau amgueddfeydd
  • Archeoleg amgylcheddol
  • Anthropoleg
  • Esblygiad dynol
  • Gwyddor fforensig
  • Gwyddor archeolegol.

Bydd angen 2 - 3 o gymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) arnoch i astudio gradd. Wedi hynny, efallai y gallwch ymuno â chynllun hyfforddeion graddedig cwmni.  

Ar ôl i chi ennill gradd gyntaf, gallech astudio gradd ôl-raddedig er mwyn arbenigo ymhellach neu i wneud rhagor o hyfforddiant â Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr (CIfA).

Dod o hyd i gwrs prifysgol.

Cyngor ar gyllido

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni archeolegol yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. 

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 mlwydd oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant. 

Gallech gwblhau prentisiaeth gradd arbenigol ym maes archeoleg. Bydd chi angen 4 - 5 o gymwysterau TGAU (neu gyfwerth) arnoch â graddau 9 - 4 (A* - C) a chymwysterau safon uwch (neu gyfwerth) i wneud hyn. 

Canllaw i brentisiaethau

Profiad gwaith

Ceir llawer iawn o gystadlu am gyrsiau a swyddi ym maes archeoleg. Bydd profiad gwaith ymarferol gyda chymdeithas archeolegol leol, amgueddfa neu gyflogwr arall yn gwella'ch siawns o gael eich derbyn. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i benderfynu a yw'r swydd hon yn addas i chi, gwella'ch sgiliau a gwneud argraff ar gyflogwyr.

Dysgwch ragor am brofiad gwaith


Beth mae archaeolegydd yn ei wneud?

Fel archeolegydd, gallech fod yn gwneud y canlynol: 

  • Cynnal arolygon maes, ymchwil a gwaith cloddio cyn i brosiectau adeiladu ddechrau i weld os oes asedau treftadaeth yn bresennol
  • Llunio cofnodion o’r strwythur, adeiladwaith a chyflwr adeiladau treftadaeth
  • Helpu i ail-lunio prosiectau i amddiffyn asedau treftadaeth
  • Monitro a chofnodi gwaith cloddio i sicrhau bod darganfyddiadau archeolegol yn cael eu diogelu
  • Asesu effaith bosibl datblygiadau arfaethedig a cheisiadau cynllunio
  • Asesu safleoedd gan ddefnyddio ffotograffiaeth o'r awyr ac arolygon maes
  • Cofnodi darganfyddiadau gan ddefnyddio ffotograffiaeth, lluniadau a nodiadau manwl
  • Glanhau, adnabod a dosbarthu darganfyddiadau mewn labordy
  • Gwneud gwaith dadansoddi mewn labordy, h.y. dyddio a samplu carbon
  • Llunio efelychiadau cyfrifiadurol o sut y gall arteffactau neu safleoedd fod wedi edrych ar un adeg
  • Cadw a diogelu arteffactau mewn amgueddfeydd
  • Sicrhau bod safleoedd ac adeiladau treftadaeth sy'n ddiwylliannol bwysig yn cael eu gwarchod
  • Gweithio mewn swyddfa neu amgueddfa ac ymweld â safleoedd, beth bynnag fo'r tywydd.

Faint allech ei ennill fel archeolegydd?

  • Gall archeolegwyr sydd newydd eu hyfforddi ennill £19,000 - £22,000
  • Gall archeolegwyr wedi'u hyfforddi sydd â rhywfaint o brofiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall archeolegwyr uwch, siartredig neu feistr ennill £40,000 - £45,000.*

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer archeolegwyr:

Gwefannau allanol yw'r rhain, felly gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chynnydd

Fel archeolegydd â chymwysterau llawn, gallech ddod yn ymgynghorydd ar eich liwt ei hun.

Byddwch yn gallu ymgeisio am swyddi ar lefel uwch pe baech yn cael eich achredu'n broffesiynol gan Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr.


Dyluniwyd y wefan gan S8080