Facebook Pixle

Ecolegydd

Mae ecolegydd yn gyfrifol am astudio'r anifeiliaid a'r planhigion sy'n byw mewn amgylchedd penodol, ac adrodd ar effeithiau tebygol unrhyw waith adeiladu arfaethedig. Bydd y rôl hon hefyd yn cynnwys gwneud argymhellion ar faterion amgylcheddol.


Y Rôl

  • Ymweld â safleoedd i gynnal arolygon o anifeiliaid, planhigion a'u hamgylchedd
  • Ymchwilio i effaith adeiladu a gweithgarwch dynol arall
  • Adeiladu modelau cyfrifiadurol i ragweld effeithiau gwaith adeiladu
  • Cynghori ar reoliadau cyfreithiol mewn cysylltiad â rhywogaethau a warchodir
  • Nodi a chofnodi manylion cynefinoedd a rhywogaethau
  • Cynhyrchu adroddiadau sy'n manylu ar effaith amgylcheddol bosibl unrhyw amharu ar yr amgylchedd a gwneud argymhellion ar y dull gorau i'w reoli
  • Dadansoddi data a gesglir
  • Cynghori rhanddeiliaid prosiect
  • Darparu cyngor arbenigol ar ddeddfwriaeth amgylcheddol
  • Paratoi adroddiadau ac argymhellion
  • Ymweld â'r safle yn ystod y gwaith adeiladu i fonitro bod yr holl waith yn cael ei wneud fel y'i cytunwyd
  • Cynghori cynllunwyr, peirianwyr, dylunwyr a chwmnïau adeiladu
  • Fel rheol bydd gyrfa fel ecolegydd yn cynnwys gweithio oriau swyddfa safonol, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Mae'n debygol y bydd achlysuron pan fydd angen gweithio'n hwyr neu ar benwythnosau, yn arbennig mewn rolau uwch

Cymwysterau a Hyfforddiant

Mae nifer o lwybrau sy'n gallu arwain at yrfa fel ecolegydd ond bydd y rhan fwyaf yn gofyn am radd neu gyfwerth mewn maes perthnasol megis ecoleg, bioleg cadwraeth, gwyddor ecolegol neu wyddor amgylcheddol.


Cyflog

  • Gall ecolegwyr sydd newydd hyfforddi ennill rhwng oddeutu £20,000 - £25,000
  • Gall ecolegwyr hyfforddedig â phrofiad ennill rhwng oddeutu £25,000 a £30,000
  • Gall uwch ecolegwyr, ecolegwyr siartredig neu feistr ecolegwyr ennill rhwng oddeutu £30,000 a £50,000

Mae cyflogau'n amrywio fel arfer yn dibynnu ar leoliad a lefel o gyfrifoldeb.


Vacancies/apprenticeships

Apprenticeships

Swyddi gwag

Gwiriwch y diweddaraf swyddi gwag:

Gan mai gwefannau allanol yw’r rhain, gallai’r nifer o swyddi gwag cysylltiedig â’r rôl a ffefrir gennych amrywio.

Gwiriwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!


Dyluniwyd y wefan gan S8080