Facebook Pixel

Gweithredwr peiriannau

Mae gweithredwyr peiriannau'n defnyddio peiriannau trwm i gloddio, codi a symud deunyddiau ar safleoedd adeiladu. Gallant newid tirweddau yn ddramatig neu osod strwythurau trawiadol o fewn amser byr. Mae gweithredwyr peiriannau fel arfer yn arbenigo mewn un math o gyfarpar, megis turiwr neu graen anferth, ac mae angen ymwybyddiaeth ofodol dda arnynt i symud peiriannau ar raddfa fawr.

Cyflog cyfartalog*

£14000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

48-50

Y nifer sy’n gyflogedig yn y DG

41,600

Sut i ddod yn weithredwr peiriannau

Mae sawl llwybr i ddod yn weithredwr peiriannau. Gallech chi wneud cwrs coleg, prentisiaeth neu hyfforddiant ar y swydd.

Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ganfod pa un yw'r un cywir i chi. Er bod gan rai o'r llwybrau hyn ofynion penodol ynghylch cymwysterau, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sydd yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Gallai fod angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu(CSCS) neu gardiau Cynllun Cymhwyster Periannau Adeiladu (CPCS) arnoch chi i weithio ar safle adeiladu. Dysgwch fwy

Darparwr coleg/hyfforddiant

Gallai fod angen i chi fynychu coleg arbenigol neu ddarparwr hyfforddiant i ennill y cymwysterau cywir.

Gallech gwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau Adeiladu neu Ddiploma Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig i ddod yn weithredwr peiriannau dan hyfforddiant.

Bydd angen:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu neu gwmni llogi peiriannau yn ffordd dda i mewn i'r diwydiant.

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad ar y swydd a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolraddol ar gyfer Gweithredwr Peiriannau neu Dechnegydd Codi neu Lefel 2 NVQ/SVQ mewn Gweithrediadau Peiriannau. Mae prentisiaeth ganolradd yn cymryd tua dwy flynedd i'w chwblhau.

Gallai fod angen TGAU arnoch chi (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) neu gyfwerth, i wneud prentisiaeth, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol.

Gwaith

Os oes gennych brofiad o weithredu peiriannau trwm, efallai y gallech wneud cais am swydd yn uniongyrchol.

Os nad oes, gallech chi chwilio am waith fel llafurwr neu weithredwr adeiladu cyffredinol er mwyn ennill profiad ar y safle. Yna gallai'ch cyflogwr gynnig hyfforddiant yn y gwaith.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Bydd cyflogwyr bob amser yn falch o'i weld wedi'i restru ar eich CV.


Beth mae gweithredwr peiriannau yn ei wneud?

Fel gweithredwr peiriannau gallech:

  • Ddefnyddio turwyr 180 a 360 gradd
  • Symud pridd gyda thurwyr, teirw dur a thryciau dadlwytho
  • Llwytho rhawiau
  • Gweithredu craeniau anferth a gweithio gydag arwyddion slingiwr ar y radio
  • Lefelu ardaloedd â chywasgwyr
  • Defnyddio rigiau polion a phympiau concrit
  • Defnyddio fforch godi i ddadlwytho a symud deunyddiau o amgylch y safle
  • Cynnal gwiriadau diogelwch a chadw peiriannau i weithio'n gywir
  • Newid bwcedi ac atodiadau peiriannau eraill
  • Gweithio ar safleoedd adeiladu yn gwneud gwaith swnllyd, corfforol ymdrechgar a budr.

Faint allech chi ei ennill fel gweithredwr peiriannau?

  • Gall gweithredwyr peiriannau sydd newydd hyfforddi ennill rhwng £19,000 a £25,000
  • Gall gweithredwyr peiriannau hyfforddedig â phrofiad ennill rhwng £25,000 a £30,000
  • Gall uwch weithredwyr peiriannau ennill rhwng £30,000 - £40,000

Bydd cyflogau'n dibynnu ar leoliad, cyflogwr a lefel o gyfrifoldeb. Mae gweithredwyr peiriannau hunangyflogedig yn sefydlu eu cyfraddau tâl eu hunain.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Gwiriwch y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gweithredwyr peiriannau:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a dilyniant

Gallech symud ymlaen i faes adeiladu neu reoli peiriannau ac ennill cyflog uwch.

Mae rhai gweithredwyr yn arbenigo mewn hyfforddi, amcangyfrif neu gynllunio codi. Gallech hefyd symud i faes llogi neu werthu peiriannau.


Dyluniwyd y wefan gan S8080