Facebook Pixel

Peiriannydd sifil

A elwir hefyd yn -

Ymgynghorydd peirianneg

Mae peirianwyr sifil yn cynllunio, dylunio a rheoli prosiectau adeiladu mawr. Gallai hyn gynnwys pontydd, adeiladau, cysylltiadau trafnidiaeth a strwythurau mawr eraill. Maent yn defnyddio meddalwedd modelu cyfrifiadurol a data o arolygon, profion a mapiau i greu glasbrintiau prosiect. Mae'r cynlluniau hyn yn cynghori contractwyr ar y ffordd orau o weithredu ac yn helpu i leihau effaith a risg amgylcheddol.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£80000

Oriau arferol yr wythnos

40-42

Sut i ddod yn beiriannydd sifil

Mae sawl llwybr i ddod yn beiriannydd sifil. Gallwch chi ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch drwy wneud cwrs prifysgol neu goleg neu gallech chi wneud cais am brentisiaeth peirianneg sifil. Os oes gennych sgiliau neu brofiad perthnasol eisoes efallai y gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr neu hyfforddi yn y swydd. Dylech archwilio'r llwybrau hyn i ganfod pa un yw'r un cywir i chi.

Efallai y bydd arnoch angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) i weithio ar safle adeiladu.

Y Brifysgol

Gallwch ddod yn beiriannydd sifil trwy gofrestru ar gwrs gradd prifysgol pedair blynedd. Wrth astudio, gallech chi ddewis arbenigo mewn maes penodol, megis peirianneg strwythurol, amgylcheddol neu arfordirol.

Efallai y gallech ailhyfforddi fel peiriannydd sifil os oes gennych radd israddedig neu ôl-raddedig berthnasol megis mathemateg, daeareg neu wyddoniaeth.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Darparwr coleg/hyfforddiant

Efallai y bydd angen i chi fynd i goleg arbenigol neu ddarparwr hyfforddiant i ddechrau'ch astudiaethau fel peiriannydd sifil.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda i mewn i'r diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad ar y swydd a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Mae Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) yn rhestru'r cyfleoedd prentisiaeth diweddaraf ar eu gwefan.

Gwaith

Efallai y gallwch weithio fel technegydd peirianneg sifil, wrth astudio’n rhan-amser i gymhwyso fel peiriannydd sifil.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.

Cymwysterau

I ddod yn beiriannydd sifil, gallech gwblhau:

  • NVQ Lefel 2 mewn Gwaith Adeiladu a Pheirianneg Sifil

I ddod yn beiriannydd sifil, gallech gwblhau:

  • Prentisiaeth Sylfaen (SCQF Lefel 6) mewn Peirianneg Sifil
  • Prentisiaeth Fodern mewn Adeiladu Technegol ar Lefel 7" "Prentisiaeth i Raddedigion mewn Peirianneg Sifil
  • Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Sifil
  • Gradd mewn Peirianneg Sifil
  • Gradd Meistr mewn Peirianneg Sifil

I ddod yn beiriannydd sifil, gallech gwblhau:

  • Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Sifil
  • Gradd mewn Peirianneg Sifil
  • Gradd Meistr mewn Peirianneg Sifil

Beth mae peiriannydd sifil yn ei wneud?

Mae peirianwyr sifil yn aml yn arbenigo mewn un maes, megis cludiant (ffyrdd, meysydd awyr, rheilffyrdd), amgylcheddol (rhwystrau llifogydd, tyrbinau), geodechnegol (mwyngloddio a gwrthgloddiau), morol (porthladdoedd ac amddiffynfeydd môr) neu strwythurol (argaeau, piblinellau, platfformau ar y môr).

Fel peiriannydd sifil gallech:

  • Cynorthwyo ag ymchwiliadau safle
  • Asesu gwerth a risgiau posibl mewn prosiectau penodol
  • Datblygu glasbrintiau gan ddefnyddio dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD)
  • Cydgysylltu â phenseiri, isgontractwyr, ymgynghorwyr, cydweithwyr a chleientiaid
  • Sicrhau bod prosiectau'n diwallu gofynion cyfreithiol a safonau iechyd a diogelwch
  • Datrys problemau dylunio a datblygu
  • Rheoli cyllidebau ac adnoddau prosiect eraill
  • Mynychu cyfarfodydd cyhoeddus i drafod prosiectau
  • Defnyddio meddalwedd fodelu gyfrifiadurol i ddadansoddi arolygon a data mapio
  • Paratoi cynigion ac adroddiadau prosiectau
  • Asesu effaith amgylcheddol prosiect a'i risg bosibl
  • Monitro cynnydd prosiect a sicrhau ei fod yn diwallu gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch
  • Gweithio ar y safle ym mhob tywydd neu mewn swyddfa.


Faint allech chi ei ennill fel peiriannydd sifil?

  • Gall peirianwyr sifil newydd eu hyfforddi ennill tua £20,000-£40,000
  • Gall peirianwyr sifil wedi'u hyfforddi â phrofiad ennill tua £40,000-£60,000
  • Gall peirianwyr sifil uwch, siartredig neu feistr ennill tua £60,000-£80,000

Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar leoliad, cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei wneud. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa yn gwella â statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swydd wag

Gwiriwch y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer peirianwyr sifil:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a dilyniant

Gallech ennill statws peiriannydd corfforedig neu siartredig. Byddai hyn yn eich helpu i symud ymlaen i rolau rheoli prosiect uwch o fewn cwmnïau adeiladu ac ennill cyflog uwch.

Gallech hefyd arbenigo mewn maes penodol o beirianneg neu gynorthwyo prosiectau ymchwil. Gallech ddod yn ymgynghorydd hunangyflogedig a gosod eich cyflog eich hun.

Mae angen peirianwyr sifil ar lawer o asiantaethau datblygu rhyngwladol, felly mae posibilrwydd o weithio dramor.


Dyluniwyd y wefan gan S8080