Facebook Pixle

Rheolwr sicrhau ansawdd

Mae rheolwr sicrhau ansawdd yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau'n cyrraedd y safon gywir er mwyn sicrhau bod pawb o fewn cwmni adeiladu, a'r tu allan iddo, yn hapus.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£45000

Sut i ddod yn Rheolwr sicrhau ansawdd

Nid oes unrhyw gymwysterau penodol i fod yn rheolwr sicrhau ansawdd, ond bydd cyflogwyr fel arfer yn chwilio am HNC/HND neu radd mewn pwnc perthnasol fel rheoli busnes, rheoli adeiladu neu beirianneg.

Gall cyflogwyr ystyried ymgeiswyr o ddiwydiannau eraill sydd â chefndir mewn rheoli ansawdd neu gontractau.


Beth mae Rheolwr sicrhau ansawdd yn ei wneud?

  • Cwrdd â chleientiaid i ddeall eu hanghenion busnes
  • Llunio gweithdrefnau, safonau a manylebau ansawdd y cwmni
  • Cyfateb prosesau â safonau
  • Cyflwyno cynigion prosiect i gleientiaid
  • Trafod deunyddiau crai â chyflenwyr
  • Ysgrifennu adroddiadau rheoli a thechnegol
  • Rhedeg cyllidebau
  • Casglu a rhannu ystadegau
  • Ymdrin ag unrhyw faterion sy'n codi â chwsmeriaid neu brosiectau
  • Diwallu disgwyliadau cwsmeriaid
  • Dilyn rheoliadau cyfreithiol
  • Cydlynu unrhyw beth mae'n rhaid ei wneud er mwyn diwallu safonau ansawdd


Cyflog

  • Gall Rheolwyr Sicrhau Ansawdd sydd newydd hyfforddi ennill rhwng £23,000 a £28,000
  • Gall Rheolwyr Sicrhau Ansawdd hyfforddedig â phrofiad ennill rhwng £28,000 a £45,000
  • Gall Uwch Reolwyr Sicrhau Ansawdd neu Reolwyr Sicrhau Ansawdd â statws Siartredig ennill rhwng £45,000 a £55,000

Mae cyflogau'n amrywio yn dibynnu ar leoliad, cyflogwr a lefel o gyfrifoldeb, a bydd cyflogau a dewisiadau gyrfaol yn gwella ar ôl ennill statws Siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019


Swydd wag

Gwiriwch y diweddaraf swyddi gwag: 

Gan mai gwefannau allanol yw’r rhain, gallai’r nifer o swyddi gwag cysylltiedig â’r rôl a ffefrir gennych amrywio.

Gwiriwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!


Dyluniwyd y wefan gan S8080