Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Caiff asffalt mastig ei wneud o gymysgedd o galchfaen a bitwmen. Caiff ei daenu ar safleoedd adeiladu gan asffaltwyr mastig er mwyn creu arwynebau caled, diddos.
£17000
-£35000
Efallai y bydd rhai cyflogwyr am i chi gael TGAU (neu gyfwerth fel Bagloriaeth Cymru) mewn Saesneg, Mathemateg a Dylunio a Thechnoleg neu'r Dystysgrif BTEC i fod yn gymwys.
Gall peth profiad o weithio ar safle adeiladu fod yn ddefnyddiol wrth gael troed yn y drws, ond nid yw'n hanfodol. Os nad ydych chi wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu, ystyriwchwch fod yn llafurwr i ddechrau. Yna gall eich pennaeth eich hyfforddi ym maes asffaltio.
Mae prentisiaeth yn ffordd dda o gychwyn eich gyrfa fel asffaltiwr mastig. Mae mynediad i gynllun prentisiaeth fel rheol yn golygu sefyll prawf dethol. Fel prentis, byddwch chi'n astudio am NVQ Lefel 2 a 3. I ddod o hyd i brentisiaeth, ewch i wefan y Llywodraeth, neu Gyrfa Cymru yng Nghymru.
Mae'rSefydliad Toi yn cynnig ei gymwysterau ei hun, a bydd yn gallu cynnig help a chyngor i chi.
Ag hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, byddech yn gweithio tuag at Scottish Vocational Qualification (SVQ) mewn Galwedigaethau Toi (Adeiladu) ar Lefelau 2 a 3 a Philenni Didos Cymhwysol (Adeiladu) (Toi Bitwminaidd Adeiledig) Lefel 2 (SCQF lefel 5).
Dan Glynn
Mae Dan Glynn yn asffaltwr mastig gyda'r cwmni gosod toeon cenedlaethol, BriggsAmasco.
Bydd cyflogau'n amrywio yn ôl lleoliad/cyflogwr.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Gwiriwch y diweddaraf swyddi gwag:
Gan mai gwefannau allanol yw’r rhain, gallai’r nifer o swyddi gwag cysylltiedig â’r rôl a ffefrir gennych amrywio.
Gwiriwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod