Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn gweithredu fel ‘cydwybod’ cwmni, yn codi llais ac yn datblygu’r ochr foesegol, ecogyfeillgar ac ymwybyddiaeth gymdeithasol cwmni. Mae’r swydd yn cynnwys creu cysylltiadau rhwng busnes a chymuned, yn cynyddu ymwybyddiaeth gadarnhaol o ymrwymiad sefydliad i gyfrifoldeb cymdeithasol cynaliadwy.
£20000
-£40000
35
I ddod yn gydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, mae sawl llwybr ar gael. Gallech wneud cwrs yn y brifysgol neu'r coleg, gwneud prentisiaeth neu wneud cais am swydd yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i ddod yn gydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, i weld pa un yw'r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol i ddilyn rhai o'r llwybrau hyn, mae’n well gan lawer o gyflogwyr fod unigolion yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Gall fod angen cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I ddod yn gydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, gallech gwblhau gradd israddedig neu ôl-raddedig mewn unrhyw ddisgyblaeth. Gall astudio pynciau perthnasol megis hawliau dynol, astudiaethau rhyngwladol, y gyfraith, gwleidyddiaeth, cysylltiadau cyhoeddus, rheoli busnes neu amgylcheddol wella eich cyfleoedd o sicrhau swydd yn y maes.
Bydd angen y canlynol arnoch:
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
I ddod yn gydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, gallech wneud cwrs yn y coleg i’ch rhoi ar ben y ffordd, megis astudiaethau busnes, daearyddiaeth, y gyfraith neu wleidyddiaeth.
I wneud cwrs yn y coleg, bydd angen 5 TGAU gyda graddau 9 i 4 (A* i C) neu gymwysterau cyfatebol arnoch.
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
> Dod o hyd i gwrs yn agos atoch chi
Gallech wneud prentisiaeth i’ch helpu i ddod yn gydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
Gallech wneud prentisiaeth busnes neu brentisiaeth gyfreithiol. Ni fyddai angen i chi wneud y brentisiaeth hon gyda chwmni adeiladu o reidrwydd, gan y gallech arbenigo mewn cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn y diwydiant adeiladu pan fyddwch wedi cymhwyso.
I wneud prentisiaeth, bydd angen hyd at 5 TGAU gyda graddau 9 i 4 (A* i C) neu gymwysterau cyfatebol arnoch.
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud prentisiaeth. Fel prentis, byddwch wedi’ch cyflogi'n llawn gan y cwmni rydych yn gweithio iddo a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng y gweithle a’r coleg neu'r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn agos atoch chi
Yn ddibynnol ar eich profiad a’ch cymwysterau, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel cydlynydd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, neu debyg. Gall eich cyflogwr gynnig hyfforddiant i’ch helpu i ddatblygu i rôl cydlynydd.
Mae profiad gwaith yn hanfodol i sicrhau swydd yn y diwydiant adeiladu. Gallech gael profiad gwaith yn yr ysgol neu drwy weithio dros benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio fel cydlynydd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith ar eich CV.
> Rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith
Mae’r sgiliau dymunol ar gyfer cydlynydd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol fel a ganlyn:
Gall eich dyletswyddau fel cydlynydd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol gynnwys rhai o’r canlynol:
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallwch ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol sy’n wag ar hyn o bryd:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel cydlynydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, gallech ddatblygu i rôl rheoli uwch o fewn sefydliad.
Dewis arall yw mynd yn ymgynghorydd hunangyflogedig a chynnig cyngor i amrywiaeth o fusnesau.