Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae cynllunwyr yn creu rhaglenni o'r holl waith sydd ei angen ar brosiectau adeiladu mawr a gweithgareddau uniongyrchol. Fel cynllunydd, byddwch yn goruchwylio logisteg, yn trefnu gweithwyr, yn rheoli cyllidebau ac yn sicrhau fod y gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â'r amserlen. Byddwch yn cydweithio'n agos ag amcangyfrifwyr, peirianwyr, syrfewyr a phenseiri i gadw prosiectau ar y trywydd iawn a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.
£20000
-£70000
Mae yna sawl llwybr i ddod yn gynllunydd. Gallwch ennill y cymwysterau sydd ei angen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol neu goleg, neu brentisiaeth. Os oes gennych rywfaint o brofiad yn barod, efallai y gallech chi anfon cais yn uniongyrchol at gyflogwr i ddod yn gynorthwyydd cynllunio.
Dylech archwilio'r opsiynau i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech gwblhau gradd israddedig mewn rheoli adeiladu neu reoli prosiectau.
Os oes gennych radd gyntaf yn barod, gallech astudio am gymhwyster ôl-raddedig mewn rheoli prosiectau adeiladu.
Byddwch angen:
Gallech wneud Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Astudiaethau Adeiladu.
Byddwch angen:
Os ydych yn gweithio fel goruchwyliwr safle ym maes un o'r crefftau adeiladu eisoes, gallech gwblhau Diploma NVQ Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwaith Galwedigaethol i'ch helpu i ddod yn gynllunydd.
Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu yn ffordd dda o gychwyn gweithio yn y diwydiant. Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad yn y gwaith a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.
Mae prentisiaeth ganolradd yn cymryd tua dwy flynedd i'w chwblhau. I ddod yn gynllunydd adeiladu, gallech ddilyn uwch-brentisiaeth mewn Rheoli Adeiladu.
Byddwch angen:
Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn dod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu. Gallech ennill y profiad hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau i gwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.
Fel cynllunydd, gallech fod yn gwneud y canlynol:
Anika Delves
Cynllunydd cynorthwyol i Wates Construction
Mae oriau a chyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallech ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Chwiliwch am y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cynllunwyr adeiladu:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.
Bydd y rhan fwyaf o gynllunwyr yn cychwyn fel cynorthwyydd neu hyfforddeion cynllunio. Byddant yn rhannu rhaglenni gwaith â chydweithwyr a chyflenwyr ac yn sicrhau fod pob cam yn cael ei gyflawni yn unol â'r amserlen.
Fel cynllunydd mwy profiadol, gallech symud ymlaen i fod yn uwch reolwr prosiectau neu'n gyfarwyddwr adeiladu.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod