Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gosodwyr carpedi yn gosod carpedi a lloriau finyl mewn cartrefi a safleoedd busnes. Fel gosodwr carpedi, byddech yn mesur ystafelloedd, grisiau a chynteddau, ac yn amcangyfrif y deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith, ac yn rhoi’r gorchudd llawr ar y safle, gan ei dorri i ffitio a’i roi’n sownd.
£14000
-£30000
45-47
Does dim angen cymwysterau penodol i fod yn osodwr carpedi. Gallech chi astudio yn y coleg neu ddilyn prentisiaeth fel gosodwr lloriau, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn osodwr carpedi i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau, mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Does dim cyrsiau penodol i'ch helpu i fod yn osodwr carpedi, ond gallech ennill sgiliau perthnasol drwy gwblhau cwrs coleg megis:
Bydd angen i chi gael o leiaf 2 TGAU ar raddau 3 i 1 (D i G), neu gymhwyster cyfatebol.
> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol
> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi
Gallech gwblhau prentisiaeth ganolig fel gosodwr lloriau ac wedyn dod o hyd i waith fel gosodwr carpedi.
Efallai y bydd angen TGAU (gan gynnwys Saesneg a mathemateg) neu gymhwyster cyfatebol arnoch i ddilyn prentisiaeth, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol.
Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi
Os oes gennych chi sgiliau ymarferol da neu brofiad mewn crefft arall, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni arbenigol i gael profiad ar safle fel gosodwr carpedi. Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich cefnogi mewn unrhyw hyfforddiant angenrheidiol.
Gallech chi gael profiad gwaith yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr carpedi. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.
> Dysgwch fwy am brofiad gwaith
Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr carpedi:
Fel gosodwr carpedi, byddwch yn gyfrifol am osod carpedi newydd neu finyl mewn ystafelloedd, cynteddau a grisiau sy’n amrywio o ran siâp a maint.
Mae swydd gosodwr carpedi yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:
Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr carpedi yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gosodwyr carpedi:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel gosodwr carpedi, gallech symud ymlaen i fod yn arweinydd tîm neu’n oruchwylydd, neu symud i amcangyfrif, rheoli contractau neu brynu.
Neu, gallech sefydlu eich hun fel gweithredwr hunan-gyflogedig.