Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Pan fydd angen archwilio'r ddaear ar safle adeiladu, anfonir am weithredwr drilio tir.
£17000
-£35000
Nid oes unrhyw gymwysterau penodol i fod yn weithredwr drilio tir ond mae'n helpu i gael Graddau Safonol/Cenedlaethol 4 neu 5, TGAU ar A* - C mewn mathemateg a Saesneg, neu gymhwyster cyfwerth megis Bagloriaeth Cymru oherwydd bod hyn yn helpu â'r cyfrifiadau rydych chi'n eu gwneud yn y swydd.
Ffordd dda o gychwyn eich gyrfa yw gwneud prentisiaeth â chwmni lleol. Mae'r prentisiaeth drilio tir yn cyfuno dysgu yn y coleg â hyfforddiant wedi'i oruchwylio yn y swydd. Mae hyn yn arwain at asesiad SVQ/NVQ i'ch cymhwyso chi fel driliwr arweiniol. I ddod o hyd i brentisiaeth yn yr Alban, ewch i Skills Development Scotland, gwefan y Llywodraeth yn Lloegr neu, yng Nghymru, Gyrfa Cymru.
Mae hyfforddiant yn cwmpasu'ch hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth, iechyd a diogelwch a'r amgylchedd, daeareg, cymwysiadau a dulliau drilio, rheoli'r safle, drilio a growtio, archwilio tir, angori, cymorth cyntaf a gweithio mewn mannau cyfyng.
Bydd eich cyflog fel arfer yn amrywio yn dibynnu ar leoliad, cyflogwr a goramser.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Gwiriwch y diweddaraf swyddi gwag:
Gan mai gwefannau allanol yw’r rhain, gallai’r nifer o swyddi gwag cysylltiedig â’r rôl a ffefrir gennych amrywio.
Gwiriwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod