Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae gweithwyr dymchwel yn datgymalu adeiladau a strwythurau peryglus neu hynafol. Maent yn tynnu ffitiadau, deunyddiau peryglus ac yn achub unrhyw beth y gellir ei ail-ddefnyddio, cyn defnyddio offer, peiriannau neu ffrwydron i ddymchwel strwythur.
£17000
-£45000
42 - 44
Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i ddod yn weithiwr dymchwel, mae sawl llwybr y gallech ei gymryd i ddilyn yr yrfa hon. Gallech wneud cwrs yn y coleg neu brentisiaeth neu wneud cais am swydd yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i ddod yn weithiwr dymchwel, i weld pa un yw'r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol i ddilyn rhai o'r llwybrau hyn, mae’n well gan lawer o gyflogwyr fod unigolion yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Gall fod angen cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I’ch helpu i ddod yn weithiwr dymchwel, gallech gwblhau cwrs coleg megis Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu, Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Adeiladu neu Ddiploma Lefel 3 mewn Dymchwel.
Bydd angen y canlynol arnoch:
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
> Dod o hyd i gwrs yn agos atoch chi
Os ydych dros 18 oed, gallech gwblhau prentisiaeth gweithiwr dymchwel ganolradd i’ch helpu ar eich llwybr gyrfa. Os ydych o dan 18 oed, gallech gwblhau prentisiaeth gweithiwr offer ac yna cael hyfforddiant dymchwel pan fyddwch wedi cyrraedd eich 18 oed.
Bydd angen 2-3 TGAU gyda graddau 9 i 4 (A* i C) neu gymwysterau cyfatebol arnoch i wneud hyn.
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud prentisiaeth. Fel prentis, byddwch wedi’ch cyflogi'n llawn gan y cwmni rydych yn gweithio iddo a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng y gweithle a’r coleg neu'r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn agos atoch chi
Gallech ddarganfod gwaith fel labrwr adeiladu ac, os ydych dros 18 oed, gall eich cyflogwr eich helpu i hyfforddi i ddod yn weithiwr dymchwel.
Dewis arall, os oes gennych brofiad labrwr, gallech wneud cais i’r cyflogwr yn uniongyrchol i gael swydd fel gweithiwr dymchwel. Efallai y bydd angen rhai graddau TGAU 9 i 4 (A* i C) mewn Saesneg a Mathemateg, neu gymwysterau cyfatebol arnoch i wneud hyn.
Mae profiad gwaith yn hanfodol i sicrhau swydd yn y diwydiant adeiladu. Gallech gael profiad gwaith yn yr ysgol neu drwy weithio dros benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio fel gweithiwr dymchwel. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith ar eich CV.
> Rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith
Mae sgiliau dymunol a nodweddion personol ar gyfer gweithiwr dymchwel yn cynnwys y canlynol:
Mae gweithwyr dymchwel yn datgymalu strwythurau neu adeiladau. Gall eich cyfrifoldebau gynnwys paratoi safle i’w ddymchwel, achub deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio, tynnu ffitiadau a datgymalu strwythurau ar uchder.
Mae rhai o ddyletswyddau nodweddiadol gweithiwr dymchwel yn cynnwys y canlynol:
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallwch ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi gweithwyr dymchwel sy’n wag ar hyn o bryd:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Gyda mwy o hyfforddiant a phrofiad gallech arbenigo mewn math penodol o ddymchwel, megis ffrwydron.
Dewis arall yw symud i rôl oruchwyliol neu reoli a goruchwylio gwaith ar safle adeiladu.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod