Mae Olly Carlton yn beiriannydd geodechnegol i Arup ym Manceinion, sef cwmni peirianneg amlddisgyblaethol mawr yn y sectorau adeileddol, sifil, dŵr a geodechnegol.
Sut y gwnaethoch ddechrau arni?
Roedd gen i ddiddordeb mewn peirianneg a sut mae pethau'n gweithio ers oeddwn yn blentyn. Bûm yn teithio gryn dipyn pan oeddwn yn ifanc, i Ogledd America, Ewrop ac Asia. Ar ôl gweld adeiladau mawr, fel Adeilad Empire State yn Efrog Newydd a phont grog Akashi Kaikyo yn Japan, taniwyd fy mrwdfrydedd dros fod yn beiriannydd sifil.
Cefais brofiad o'r diwydiant am y tro cyntaf pan oeddwn yn y chweched dosbarth. Roeddwn yn gwybod fy mod am fod yn Beiriannydd Sifil felly dechreuais chwilio am leoliadau haf. Roedd fy lleoliad haf cyntaf gydag Arup a threuliais wythnos yn gweithio yn nisgyblaethau peirianneg dŵr, geodechneg, adeiledd a thrafnidiaeth. Ar ôl cwblhau fy nghyrsiau safon Uwch, gwnes gais i Arup a chefais fy nerbyn ar leoliad cyn-prifysgol yn Leeds am flwyddyn ym maes peirianneg geodechnegol.
Beth rydych yn ei fwynhau am eich gwaith?
Mae peirianneg sifil yn wahanol bob dydd, gyda phrosiectau a heriau newydd. Mae pob prosiect yn wahanol. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar brosiectau fel dylunio ysgol bysgod ar ddalgylchoedd afonydd, i ddylunio sylfeini ar gyfer archfarchnad a seilwaith rheilffordd. Rwyf hefyd yn mwynhau'r teithio sydd ynghlwm wrth beirianneg sifil. Mae fy ngwaith wedi mynd â fi mor bell â Tokyo, Japan!
Disgrifiwch eich diwrnod gwaith.
Mae fy swydd yn amrywio o ddydd i ddydd. Mae diwrnod arferol yn cynnwys goruchwylio archwiliadau safleoedd geodechnegol, ymweld â safleoedd er mwyn cofnodi cynnydd y gwaith drilio, a siarad â pheirianwyr a drilwyr safleoedd am ddaeareg a halogiad ar y safle. Yn ddiweddar, roedd gen i ddau archwiliad safle yn cael eu cynnal ar yr un pryd. Fy rôl yw bod mewn cysylltiad â'r drilwyr a pheiriannydd y safle er mwyn sicrhau bod archwiliadau tir yn rhedeg yn rhwydd ac yn bodloni'r fanyleb. Pan fyddaf yn y swyddfa, byddaf yn rhan o'r gwaith o ddylunio adeileddau sylfeini, er enghraifft sylfeini ar gyfer cyfarpar rheilffordd uwchddaearol (OLE) a phontydd arwyddion (daliwr arwyddion/adeiledd arwyddion). Caiff y sylfeini hyn eu dylunio gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadur a'u dilysu drwy wneud cyfrifiadau â llaw.
Rwyf hefyd yn ysgrifennu adroddiadau, er enghraifft astudiaethau desg geodechnegol ar gyfer prosiectau adeiladu sydd i ddod, a manylebau ar gyfer archwiliadau tir. O bryd i'w gilydd, byddaf yn cwrdd â chleientiaid er mwyn pennu'r hyn sydd ei angen arnynt, fel cynnal archwiliad tir i leihau unrhyw risgiau ar y safle, neu ddylunio sylfeini ar gyfer adeilad newydd. Ddwywaith yr wythnos byddaf yn mynychu trafodaethau amser cinio. Mae'r rhain yn rhoi cipolwg o waith Arup o gwmpas y byd ac yn helpu i wella fy ngwybodaeth geodechnegol.
A minnau'n beiriannydd graddedig, rwy'n cadw cofnod dyddiol o weithgareddau, sy'n rhan o'r broses o gael statws siartredig gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
Pa sgiliau rydych wedi eu meithrin ers i chi ddechrau?
Mae fy nealltwriaeth o beirianneg sifil a dylunio, yn enwedig dylunio seiliau, wedi datblygu. Rwyf hefyd wedi gwella fy sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu drwy gydweithio â gwahanol bobl ar bob prosiect a siarad â chontractwyr a chleientiaid ar y safle. Rydych yn dysgu llawer mewn amser byr yn Arup; mae fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth ym maes peirianneg geodechnegol yn datblygu'n gyson.
Beth rydych yn fwyaf balch ohono yn eich gyrfa?
Yn fuan ar ôl dechrau gydag Arup, dechreuais ddylunio 20 o sylfeini OLE ar gyfer cynllun rheilffordd mawr yn Ipswich. Bedwar mis yn ddiweddarach, cafodd yr adeileddau OLE eu hadeiladu. Ac ystyried mai'r rhain oedd fy nyluniadau sylfeini cyntaf, roeddwn yn falch o weld fy mod wedi gadael fy ôl ar brosiect adeiladu rheilffordd mor fawr!
Ble fyddwch chi ymhen 10 mlynedd?
Hoffwn fod yn beiriannydd siartredig â Sefydliad y Peirianwyr Sifil a gweithio ar brosiectau mawr, dramor o bosibl. Bydd cael statws siartredig yn agor cyfleoedd gyrfa newydd.
Beth fyddech yn ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried ymuno â'r diwydiant adeiladu?
Os ydych yn yr ysgol ar hyn o bryd, mae'n werth ystyried gwneud lleoliad yn ystod gwyliau'r haf neu tra byddwch yn y brifysgol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi gael profiad o fywyd gwaith yn y diwydiant o lygad y ffynnon a gwneud argraff ar bobl, a gall hynny arwain at gael swydd yn y dyfodol.