Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae Peirianwyr Peiriannau a Rhannau Mecanyddol yn dylunio, gosod ac atgyweirio peiriannau a rhannau peiriannau.
£25000
-£50000
40 - 44
Er mwyn mynd i mewn i faes peirianneg fecanyddol, fel arfer bydd arnoch angen gradd.
Ystyrir graddau mewn peirianneg fecanyddol, gwyddoniaeth peirianneg, peirianneg awyrenegol, peirianneg amaethyddol, peirianneg â chymorth cyfrifiadurol, peirianneg gweithgynhyrchu neu beirianneg niwclear yn ffafriol gan gyflogwyr.
Mae'n ddefnyddiol os yw eich gradd gyntaf neu radd feistr yn cael ei hachredu gan gorff proffesiynol perthnasol, megis y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol (ICE) gan y gall eich helpu i gyflawni statws peiriannydd siartredig yn nes ymlaen.
Mae'n bosibl myn i mewn i yrfa fel hyfforddai heb radd ond byddai angen i chi feithrin y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol, ac o bosib cymryd cymwysterau uwch, i weithio i fyny at rôl beiriannydd mecanyddol.
Bydd cyflogau'n amrywio yn ôl lleoliad/cyflogwr.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Gwiriwch y diweddaraf swyddi gwag:
Gan mai gwefannau allanol yw’r rhain, gallai’r nifer o swyddi gwag cysylltiedig â’r rôl a ffefrir gennych amrywio.
Gwiriwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod