Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae rheolwyr cydymffurfio’n sicrhau bod busnes, cyflogeion a phrosiectau’n cydymffurfio â’r holl reoliadau a gofynion perthnasol. Gallai hyn gynnwys safonau iechyd a diogelwch, safonau amgylcheddol, safonau cyfreithiol neu safonau ansawdd, yn ogystal ag unrhyw bolisïau moesegol a all fod gan y busnes.
£30000
-£70000
I ddod yn rheolwr cydymffurfio, mae sawl llwybr ar gael. Gallech wneud cwrs yn y brifysgol neu'r coleg, gwneud prentisiaeth neu wneud cais am swydd yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw'r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol i ddilyn rhai o'r llwybrau hyn, mae’n well gan lawer o gyflogwyr fod unigolion yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Gall fod angen cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech wneud gradd mewn pwnc perthnasol, megis Iechyd a Diogelwch neu Weinyddu Busnes.
I wneud gradd, bydd angen 2 i 3 Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol arnoch.
Pan fydd gennych radd, gallech symud ymlaen i wneud cwrs ôl-radd er mwyn ychwanegu at eich gwybodaeth arbenigol neu astudio ar gyfer cymwysterau proffesiynol pellach sy’n cael eu cynnig gan y Gymdeithas Cydymffurfio Ryngwladol, sy’n arbenigo yn y gyfraith, cydymffurfio, llywodraethu a risg.
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
Os oes gennych radd mewn pwnc perthnasol, gallech wneud cais i ymuno â chynllun hyfforddi graddedigion. Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich helpu i astudio ar gyfer cymwysterau uwch neu wneud hyfforddiant pellach gyda'r Gymdeithas Cydymffurfio Ryngwladol.
I ddod yn rheolwr cydymffurfio, gallech wneud cwrs yn y coleg i’ch rhoi ar ben y ffordd, megis cwrs Cyfrifyddu neu gwrs Mynediad i Addysg Uwch.
I wneud cwrs yn y coleg, bydd angen 5 TGAU gyda graddau 9 i 4 (A* i C) neu gymwysterau cyfatebol arnoch.
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
> Dod o hyd i gwrs yn agos atoch chi
Gallech wneud prentisiaeth i’ch helpu i ddod yn rheolwr cydymffurfio.
Gallech wneud prentisiaeth cyfrifyddu neu brentisiaeth gyfreithiol. Ni fyddai angen i chi wneud y brentisiaeth hon gyda chwmni adeiladu o reidrwydd, gan y gallech arbenigo mewn cydymffurfio yn y diwydiant adeiladu pan fyddwch wedi cymhwyso.
I wneud prentisiaeth, bydd angen hyd at 5 TGAU gyda graddau 9 i 4 (A* i C) neu gymwysterau cyfatebol arnoch.
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud prentisiaeth. Fel prentis, byddwch wedi’ch cyflogi'n llawn gan y cwmni rydych yn gweithio iddo a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng y gweithle a’r coleg neu'r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn agos atoch chi
Os oes gennych rywfaint o brofiad blaenorol neu gymwysterau perthnasol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad o weithio fel rheolwr cydymffurfio. I ddechrau, efallai y byddwch yn gweithio fel cynorthwyydd ac yn camu ymlaen wrth i’ch gallu ddatblygu.
Mae profiad gwaith yn hanfodol i sicrhau swydd yn y diwydiant adeiladu. Gallech gael profiad gwaith yn yr ysgol neu drwy weithio dros benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio fel rheolwr cydymffurfio. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith ar eich CV.
> Rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith
Mae sgiliau ychwanegol a all fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel rheolwr cydymffurfio’n cynnwys:
Mae’r cyflog disgwyliedig yn amrywio yn ôl profiad.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallwch ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi Rheolwr Cydymffurfio sy’n wag ar hyn o bryd:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel rheolwr cydymffurfio, gallech symud ymlaen i rôl ymgynghorydd.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod