Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae syrfewyr adeiladu’n gyfrifol am roi cyngor i gleientiaid ar sut i ddylunio, adeiladu, cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau. Maent yn syrfeo adeiladau, yn rhoi gwybod am eu canfyddiadau ac yn gwneud argymhellion.
£19000
-£70000
38 - 40
I ddod yn syrfëwr adeiladu, mae sawl llwybr ar gael. Gallech wneud gradd yn y brifysgol, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw'r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol i ddilyn rhai o'r llwybrau hyn, mae’n well gan lawer o gyflogwyr fod unigolion yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Gall fod angen cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
Gallech wneud gradd mewn pwnc perthnasol sydd wedi’i chymeradwyo gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, megis:
I wneud gradd, bydd angen 2 i 3 Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol arnoch fel arfer.
Os yw eich gradd mewn pwnc megis Economeg, y Gyfraith neu Fathemateg, gallech astudio ar gyfer cymhwyster achrededig i raddedigion mewn Syrfeo er mwyn dod yn syrfëwr adeiladu.
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
I ddod yn syrfëwr adeiladu, gallech astudio ar gyfer cymhwyster i raddedigion drwy ymuno â chynllun hyfforddi graddedigion cwmni adeiladu neu wneud un o gyrsiau dysgu o bell Coleg y Brifysgol Rheoli Ystadau.
Gallech astudio ar gyfer cymhwyster sy’n ymwneud ag adeiladu, megis Diploma Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu Lefel T mewn Adeiladu: Dylunio, Syrfeo a Chynllunio, i’ch helpu ar eich taith i ddod yn syrfëwr adeiladu.
Bydd angen y canlynol arnoch:
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
> Dod o hyd i gwrs yn agos atoch chi
Mae gwneud prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda o ymuno â’r diwydiant. Gallech wneud prentisiaeth syrfeo siartredig i ddod yn syrfëwr adeiladu.
I wneud prentisiaeth, bydd angen hyd at 5 TGAU gyda graddau 9 i 4 (A* i C) neu gymwysterau cyfatebol arnoch.
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud prentisiaeth. Fel prentis, byddwch wedi’ch cyflogi'n llawn gan y cwmni rydych yn gweithio iddo a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng y gweithle a’r coleg neu'r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn agos atoch chi
Os oes gennych gymwysterau neu brofiad blaenorol, ac os gallwch ddod o hyd i waith fel technegydd syrfeo, efallai y byddwch yn gallu astudio ar gyfer cymwysterau pellach yn y gwaith i ddod yn syrfëwr adeiladu.
Mae profiad gwaith yn hanfodol i sicrhau swydd yn y diwydiant adeiladu. Gallech gael profiad gwaith yn yr ysgol neu drwy weithio dros benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio fel syrfëwr adeiladu. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith ar eich CV.
> Rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith
Mae sgiliau ychwanegol a all fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel syrfëwr adeiladu’n cynnwys:
Fel syrfëwr adeiladu, byddwch yn gyfrifol am syrfeo eiddo ac adeiladau a rhoi gwybod i gleientiaid pa waith dylunio, adeiladu, cynnal a chadw ac atgyweirio a all fod yn angenrheidiol.
Mae dyletswyddau syrfëwr adeiladu fel a ganlyn:
Mae’r cyflog disgwyliedig yn amrywio wrth i chi ddod yn fwy profiadol.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallwch ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi Syrfëwr Adeiladu sy’n wag ar hyn o bryd:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel syrfëwr adeiladu, gallech gamu ymlaen i rôl uwch-reolwr.
Gallech hefyd ddod yn ymgynghorydd hunangyflogedig neu symud ymlaen i faes cysylltiedig, megis rheoli adeiladau.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod