Mark Smith
Mae Mark Smith yn Syrfëwr Adfer yn Yorkshire Dampcourse
Rwy'n archwilio adeiladau er mwyn dod o hyd i ddiffygion, yn enwedig problemau lleithder a phydredd ffwngaidd/plâu o bryfaid ar bren. Gall hyn amrywio o archwilio un wal i archwiliad lleithder a phren llawn, a all gynnwys mynd i leoedd gwag o dan loriau er mwyn archwilio pren lloriau. Mae fy rôl hefyd yn cynnwys siarad â chleientiaid, ac rwy'n treulio llawer iawn o amser yn ysgrifennu adroddiadau ac yn gyrru o un arolwg i'r llall.
Beth rydych yn ei fwynhau am eich swydd?
Nid yw fy swydd byth yn ddiflas ac mae'r amser yn hedfan! Rwy'n treulio tua hanner fy amser allan o'r swyddfa a'r hanner arall yn ceisio cwblhau fy holl adroddiadau. Felly nid wyf yn eistedd y tu ôl i ddesg drwy'r dydd, ac rwy'n hoff o hynny. Rwyf hefyd yn cwrdd â phobl newydd a diddorol, ac, yn fwy na thebyg, rhan orau'r swydd yw pan fyddaf yn helpu i ddatrys problem yng nghartref cleient a chael adborth da. Rwyf hefyd yn cael gweld pob math o adeiladau gwahanol, yn fach ac yn fawr.
Sut beth yw eich diwrnod arferol?
Prysur iawn. Rwy'n treulio'r awr gyntaf yn paratoi ar gyfer yr arolygon y byddaf yn eu cynnal y diwrnod hwnnw ac yn rhoi trefn ar y cyfarpar. Wedyn, rwyf fel arfer yn gwneud tri neu bedwar arolwg y dydd, sy'n cynnwys gyrru i bob lleoliad, cynnal archwiliad a gwneud nodiadau. Wedyn rwy'n recordio'r canfyddiadau ar lafar ar fy ffôn a'i anfon drwy e-bost i'r swyddfa lle cânt eu teipio. Fel arfer, rwy'n cyrraedd yn ôl i'r swyddfa tua 2-3pm ac yn ysgrifennu adroddiadau, llunio cynlluniau llawr, paratoi dyfynbrisiau ac ateb unrhyw ymholiadau drwy e-bost.
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich swydd?
Mae sgiliau rheoli amser a sgiliau trefnu yn bwysig iawn yn y swydd hon, neu fel arall ni fyddech yn cyflwyno adroddiadau i'r cleientiaid ar amser. Mae sgiliau ysgrifennu adroddiadau, gwybodaeth dechnegol, sgiliau cyfathrebu da, llygad craff a sgiliau arsylwadol hefyd yn bwysig.
Beth oedd eich cefndir cyn dechrau yn y rôl hon?
Bûm yn gweithio mewn archfarchnadoedd ac mewn ffatri cyn penderfynu mynd i'r brifysgol fel myfyriwr aeddfed ac astudio ar gyfer gradd mewn Arolygu Adeiladau. Ar yr adeg honno, roedd gennyf ddiddordeb mewn patholeg adeiladau a phydredd pren, ac enillais wobr am ysgrifennu traethawd hir am forgrug gwyn. Yn anffodus, graddiais ar ddechrau'r wasgfa gredyd, ac roeddwn yn ei chael yn anodd iawn cael swydd yn y diwydiant adeiladu, felly bûm yn rhedeg fferm berlysiau organig ym Mhortiwgal am ddwy flynedd! Roeddwn yn awyddus i weithio yn y diwydiant adeiladu o hyd, a chlywais am fy swydd bresennol drwy hen ffrind o'r brifysgol, gwnes gais am y swydd a chefais fy nghyfweliad cyntaf o Bortiwgal dros Skype. Hedfanais i Loegr ar gyfer fy ail gyfweliad a chefais gynnig y swydd.
Beth rydych yn fwyaf balch ohono yn eich gyrfa?
Yn academaidd, cael fy ngradd BSc (Anrhydedd) a'm cymwysterau Syrfëwr Trwyddedig mewn Triniaethau Adfer (CSRT) a Syrfëwr Trwyddedig mewn Dyfrglosio Strwythurau (CSSW) ac ennill gwobr myfyriwr y flwyddyn CSRT yn 2015.
Yn broffesiynol, cystadlu yn erbyn dau gwmni cenedlaethol ac ennill prosiect gwerth £8000 i'n cwmni ni.
Ble rydych yn gweld eich hun ymhen 10 mlynedd?
Rwy'n gobeithio dod yn Gyfarwyddwr yn Yorkshire Dampcourse, a hoffwn hefyd gymryd mwy o ran yng ngweithgareddau'r Gymdeithas Gofal Eiddo (PCA).
Gair o gyngor i unrhyw un sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu?
Enillwch gymwysterau wrth weithio, oherwydd bydd hynny'n rhoi cydbwysedd da o wybodaeth dechnegol a sgiliau ymarferol i chi, a pheidiwch â bod ofn gofyn llawer o gwestiynau.