Facebook Pixel

Syrfëwr adeiladu

Mae syrfëwr adeiladu yn gyfrifol am gynghori cleientiaid am ddylunio, adeiladu, cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladau. Maent yn arolygu adeiladau ac yna’n adrodd ar eu canfyddiadau ac yn gwneud argymhellion.

Cyflog cyfartalog*

£19000

-

£70000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn syrfëwr adeiladu

Mae sawl ffordd o fod yn syrfëwr adeiladu. Gallech ddilyn gradd prifysgol, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech chi ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn syrfëwr adeiladu, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd israddedig mewn pwnc perthnasol a gymeradwyir gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, megis:

  • Arolygu
  • Adeiladu
  • Peirianneg sifil
  • Peirianneg adeiladu.

I astudio gradd israddedig, fel arfer bydd angen 2 - 3 lefel A, neu gymhwyster cyfatebol arnoch.

Os yw eich gradd israddedig mewn pwnc fel economeg, y gyfraith neu fathemateg, gallech ddilyn cymhwyster ôl-radd achrededig mewn arolygu i fod yn syrfëwr adeiladu. 

> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol

> Dod o hyd i gwrs prifysgol

> Cyngor am gyllid

Cynllun hyfforddi graddedigion

I fod yn syrfëwr adeiladu, gallech gwblhau cymhwyster ôl-radd drwy gynllun hyfforddi graddedigion gyda chwmni adeiladu, neu drwy gwrs dysgu o bell gyda'r University College of Estate Management.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cymhwyster sy'n ymwneud ag adeiladu i’ch helpu ar eich llwybr gyrfa i ddod yn syrfëwr adeiladu, fel diploma lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu lefel T mewn Dylunio, Arolygu a Chynllunio Adeiladu. 

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 3 TGAU, neu gymhwyster cyfatebol, ar radd 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (cwrs lefel 3)
  • O leiaf 5 TGAU, neu gymhwyster cyfatebol, ar radd 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg (lefel T).

> Eglurhad o'r gofynion mynediad cyfatebol

> Dod o hyd i gwrs yn eich ardal chi

> Cyngor am gyllid

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Gallech gwblhau prentisiaeth syrfëwr siartredig i fod yn syrfëwr adeiladu.

Bydd angen i chi gael hyd at 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol i fod yn brentis.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

> Dod o hyd i brentisiaeth yn eich ardal chi

> Canllawiau i brentisiaethau

Gwaith

Os oes gennych brofiad blaenorol neu gymwysterau ac yn gallu dod o hyd i waith fel technegydd arolygu, mae'n bosib y gallwch ennill rhagor o gymwysterau wrth weithio er mwyn dod yn syrfëwr adeiladu.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel syrfëwr adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

> Dysgwch fwy am brofiad gwaith 

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel syrfëwr adeiladu: 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid da
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen.

Beth mae syrfëwr adeiladu yn ei wneud?

Fel syrfëwr adeiladu, byddwch yn gyfrifol am arolygu eiddo ac adeiladau, ac adrodd i gleientiaid am y dyluniad, y gwaith adeiladu, y gwaith cynnal a chadw a’r gwaith atgyweirio a allai fod yn angenrheidiol.

Mae rôl syrfëwr adeiladu yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynnal arolygon eiddo ar y safle
  • Paratoi adroddiadau manwl ac argymhellion
  • Adnabod diffygion a rhoi cyngor ar waith adfer
  • Cynnig cyngor ar addasiadau, gwelliannau ac estyniadau arfaethedig
  • Paratoi cyllidebau ac amserlenni
  • Rhoi cyngor ar faterion amgylcheddol a diogelwch
  • Cyfarfod â chleientiaid a chontractwyr i oruchwylio cynnydd
  • Cynnig cyngor mewn perthynas â materion cyfreithiol a chynllunio
  • Gweithio ar y safle ac mewn swyddfa.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel syrfëwr adeiladu?

Mae’r cyflog disgwyliedig i syrfëwr adeiladu yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall syrfewyr adeiladu sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £19,000 - £25,000
  • Gall syrfewyr adeiladu hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £35,000
  • Gall uwch syrfewyr adeiladu ennill £35,000 - £70,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer syrfewyr adeiladu: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel syrfëwr adeiladu, gallech symud ymlaen i rolau uwch reoli. 

Gallech hefyd fod yn hunangyflogedig fel ymgynghorydd, neu symud i faes cysylltiedig, fel rheoli adeiladu.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Rheolwr bidio Mae'r disgrifiad swydd Rheolwr Bidio Am Adeiladu hwn yn sôn am bopeth y mae ange...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr datblygu busnes Mae gan Reolwyr Datblygu Busnes Adeiladu ystod o ddyletswyddau. O ddatblygu cont...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080