Facebook Pixel

SYRFËWR

Mae syrfewyr yn darparu cyngor proffesiynol ar ystod o faterion yn ymwneud ag adeiladu. Gallen nhw fod yn sicrhau bod eiddo newydd yn cael ei adeiladu yn unol â rheoliadau a manylebau; cynghori ar gynnal a chadw ac atgyweirio strwythurau presennol neu asesu difrod at ddibenion cyfreithiol ac yswiriant. Mae llawer o syrfewyr yn arbenigo mewn un maes gan fod gan y rôl lawer o gyfrifoldebau.

Cyflog cyfartalog*

£20000

-

£70000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i ddod yn syrfëwr

Mae sawl llwybr i ddod yn syrfëwr. Gallwch chi ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch trwy gwblhau cwrs prifysgol, cynllun hyfforddi graddedigion, neu brentisiaeth. Dylech chi archwilio'r opsiynau i ganfod pa un yw'r un cywir i chi.

Gallai fod angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch chi(CSCS) i weithio ar safle adeiladu.

Prifysgol/cynllun hyfforddi i raddedigion

Gallech astudio ar gyfer gradd neu gymhwyster proffesiynol a gymeradwywyd gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). Mae pynciau perthnasol yn cynnwys tirfesur, adeiladu, peirianneg sifil neu adeiladu.

Os oes gennych radd eisoes mewn pwnc arall, efallai y gallech ddilyn cymhwyster ôl-raddedig achrededig mewn tirfesur.

Ar gyfer hyn bydd arnoch angen:

  • 2 - 3 Lefel A neu gyfwerth (gradd israddedig)
  • Gradd gyntaf mewn unrhyw bwnc (gradd ôl-raddedig).

Os oes gennych eisoes radd sylfaen berthnasol neu ddiploma cenedlaethol uwch ac os ydych yn gweithio mewn maes perthnasol (h.y. fel technegydd tirfesur), gallai eich cyflogwr eich helpu i wneud cymwysterau pellach i ddod yn syrfëwr cwbl gymwys.

Gallech hefyd wneud cynllun hyfforddai graddedig gyda chwmni adeiladu ac ennill cymhwyster ôl-raddedig, neu wneud cwrs dysgu o bell gyda Choleg Rheoli Ystad y Brifysgol.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni tirfesur yn ffordd dda i mewn i'r diwydiant.

Mae prentisiaethau yn agored i bawb dros 16 oed. Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi'n llawn gan eich cwmni a disgwylir i chi weithio isafswm o 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng profiad ar y swydd a choleg neu ddarparwr hyfforddiant.

Gallech chi ddechrau'ch gyrfa fel technegydd tirfesur neu dechnegydd tirfesur geo-ofodol.

Bydd angen:

  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C)
  • 2 - 3 Lefel A (neu gyfwerth).

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol i ennill cyflogaeth o fewn y diwydiant adeiladu. Gallech chi ennill hwn yn yr ysgol, neu wrth weithio ar benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio ym maes adeiladu. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith wedi'i restru ar eich CV.


Beth mae syrfëwr yn ei wneud?

Fel syrfëwr gallech chi:

  • Arolygu eiddo i nodi difrod strwythurol a gwneud argymhellion ar gyfer atgyweiriadau
  • Archwilio adeiladau at ddibenion yswiriant a chynghori ar ofynion cyfreithiol perthnasol
  • Cynghori ar effeithlonrwydd ynni ac effaith amgylcheddol
  • Gweithio ar gadwraeth strwythurau hanesyddol
  • Gwirio bod eiddo yn diwallu rheoliadau adeiladu, hygyrchedd, a safonau tân ac iechyd a diogelwch
  • Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cwblhau yn ôl yr amserlen
  • Rheoli cyllidebau
  • Paratoi dyluniadau oddi ar fanylebau technegol
  • Cynghori cleientiaid ar geisiadau cynllunio ac anghydfodau ffiniau
  • Delio â grantiau gwella neu gadwraeth
  • Gweithio mewn swyddfa, ar y safle, neu yn eiddo'r cleient.


Faint allech chi ennill fel syrfëwr?

  • Gall syrfewyr newydd eu hyfforddi ennill £20,000 - £25,000
  • Gall syrfewyr gyda rhywfaint o brofiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall syrfewyr uwch neu siartredig ennill £30,000 - £45,000.*

Fel arfer bydd cyflogau'n amrywio gan ddibynnu ar leoliad a lefel gyfrifoldeb. Mae cyflogau a dewisiadau gyrfa yn gwella â statws siartredig.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Gwiriwch y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer syrfewyr:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y swyddi gwag sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu postio wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a dilyniant

Gallai uwch syrfewyr adeiladau symud i reoli prosiectau, neu hyfforddi ar gyfer rôl gysylltiedig, megis tirfesur tir/rheoli geomatig neu reoli adeiladu.

Gallech sefydlu practis preifat neu weithio fel ymgynghorydd hunangyflogedig a gosod eich cyflog eich hun.


Dyluniwyd y wefan gan S8080