Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae technolegydd pensaernïol yn troi syniadau pensaer yn adeilad go iawn lle mae popeth yn gweithio'n gywir ac yn ddiogel.
£17000
-£25000
Yn ogystal â’ch pynciau craidd, sef Mathemateg, Cymraeg, Saesneg a Gwyddoniaeth, ymhlith y pynciau perthnasol mae Celf, Dylunio Graffig, Deunyddiau Gwrthiannol, Technoleg Gwybodaeth a Thechnoleg Dylunio.
Mae gyrfa ym maes Technoleg Bensaernïol yn un greadigol ac arloesol, ac mae’n rhan hanfodol o’r broses o ddylunio adeiladau a strwythurau.
Beth maent yn ei wneud
Gall Technolegwyr Pensaernïol Siartredig arwain prosiect neu fod yn rhan o’r tîm. Gallwch sefydlu eich practis eich hun, darparu gwasanaeth dylunio pensaernïol llawn ac arwain prosiectau o bob math a maint o'r dechrau i'r diwedd, o gartrefi a gwestai newydd i ganolfannau siopa a stadia pêl-droed.
Byddwch yn chwarae rhan annatod yn y broses adeiladu ac yn ategu disgyblaethau Siartredig eraill yn y sector amgylchedd adeiledig.
Dechrau prosiect
Cydnabyddir bod Technolegwyr Pensaernïol Siartredig yn gymwysedig i gyd-drafod a rheoli'r gwaith o ddatblygu prosiect adeiladu.
Cynllunio prosiect
Y broses ddylunio
Mae Technolegwyr Pensaernïol Siartredig yn arbenigo mewn cymhwyso gwyddoniaeth a thechnoleg adeiladu at brosiectau pensaernïol ac adeiladu. Cydnabyddir bod ganddynt sgiliau arbenigol sy’n eu galluogi i reoli’r broses ddylunio a defnyddio eu gwybodaeth dechnegol a’u harbenigedd i lunio datrysiadau arloesol.
Rheoli contract
Cydnabyddir bod Technolegwyr Pensaernïol Siartredig yn gymwysedig i gyd-drafod a rheoli pob agwedd ar gontractau pensaernïol ac adeiladu, boed hynny drwy ddefnyddio dulliau caffael traddodiadol, dulliau caffael drwy bartneriaeth neu ddulliau caffael eraill. Mae Technolegwyr Pensaernïol Siartredig yn cydnabod pwysigrwydd yr agweddau ar y prosiect sy’n dilyn y gwaith adeiladu.
Arfer proffesiynol
Mae Technolegwyr Pensaernïol Siartredig, MCIAT, yn weithwyr pensaernïol proffesiynol a all weithio ar eu liwt eu hunain fel partner neu gyfarwyddwr, a rhaid iddynt gydymffurfio â Chod Ymddygiad.
Er mwyn dod yn Dechnolegydd Pensaernïol Siartredig, dylech gofrestru ar gwrs gradd Anrhydedd Achrededig CIAT neu gwrs cyfatebol mewn Technoleg Bensaernïol. Fell arall, gallwch ymuno â’r proffesiwn gyda gradd Anrhydedd gyfatebol neu HNC/D mewn pwnc sy’n ymwneud â’r amgylchedd adeiledig.
Bydd cyflogau fel arfer yn amrywio yn dibynnu ar leoliad a lefel o gyfrifoldeb. Bydd cyflogau a dewisiadau gyrfaol yn gwella ar ôl ennill statws siartredig.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Gwiriwch y diweddaraf swyddi gwag:
Gan mai gwefannau allanol yw’r rhain, gallai’r nifer o swyddi gwag cysylltiedig â’r rôl a ffefrir gennych amrywio.
Gwiriwch bob dydd i weld cyfleoedd newydd wrth iddynt gael eu postio!