Facebook Pixel

Teilsiwr waliau a lloriau

A elwir hefyd yn -

Teilsiwr seramig, teilsiwr

Mae teilswyr waliau a lloriau yn gorchuddio waliau, lloriau ac arwynebau eraill gyda theils, mewn ceginau, ystafelloedd ymolchi, siopau, gwestai, bwytai a mwy. Maent yn gweithio ar adeiladau newydd neu ar waith adnewyddu preifat a masnachol.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

42-44

Sut i fod yn deilsiwr waliau a lloriau

Mae sawl ffordd o ddod yn deilsiwr waliau a lloriau. Gallech ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn deilsiwr waliau a lloriau i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg

Efallai y bydd eich coleg neu'ch darparwr hyfforddiant lleol yn cynnig cyrsiau perthnasol a fydd yn eich helpu i hyfforddi fel teilsiwr waliau a lloriau, gan gynnwys:

  • Tystysgrif Lefel 1 mewn Teilsio Waliau a Lloriau
  • Diploma Lefel 2 mewn Teilsio Waliau a Lloriau
  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Teilsio Waliau a Lloriau i Gynnal a Chadw Eiddo.

Bydd angen y canlynol arnoch chi:

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn teilsio waliau a lloriau. Bydd angen i chi gael 2 -3 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni teilsio waliau a lloriau i gael profiad ar safle. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i deilsiwr waliau a lloriau mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel teilsiwr waliau a lloriau. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel teilsiwr waliau a lloriau:

  • Bod yn amyneddgar a thrachywir
  • Gweithio’n drylwyr, a rhoi sylw da i fanylion
  • Meddu ar sgiliau meddwl a rhesymu
  • Gallu gweithio’n dda dan bwysau.

Beth mae teilsiwr waliau a lloriau yn ei wneud?

Fel teilsiwr waliau a lloriau, gallech fod yn:

  • Cyfrifo faint o deils a faint o lud fydd ei angen arnoch ar gyfer ardal benodol
  • Torri teils i faint neu siâp penodol gyda thorwyr llaw neu offer sydd wedi'u gosod ar fainc
  • Paratoi arwynebau drwy lefelu gyda phlastr, tywod neu sment
  • Addurno a diogelu lloriau a waliau gan ddefnyddio pob math o deils (gan gynnwys seramig, clai, llechi, marmor a gwydr)
  • Gosod y teils a’u growtio cyn gorffen
  • Gosod teils mosaig cymhleth
  • Gweithio yng nghartref neu fusnes y cleient.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel teilsiwr waliau a lloriau?

Mae’r cyflog disgwyliedig i deilsiwr waliau a lloriau yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall teilswyr waliau a lloriau sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £25,000
  • Gall teilswyr waliau a lloriau hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £25,000 - £30,000
  • Gall teilswyr waliau a lloriau uwch ennill mwy na £30,000*
  • Teilswyr waliau a lloriau hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi gwag

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer teilswyr waliau a lloriau:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda phrofiad a hyfforddiant ychwanegol, gallech fod yn oruchwyliwr safle, clerc gwaith neu reolwr contractau.

Gallech hefyd weithio fel hyfforddwr ac asesydd ar gyrsiau teilsio neu sefydlu eich busnes eich hun.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Teilsiwr waliau a lloriau Defnyddiwch eich medr a’ch gallu i fod yn fanwl gywir i osod teils ar amrywiaeth...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Plastrwr Mae'r plastrwr yn aelod anhepgor o'r rhan fwyaf o safleoedd adeiladu – mae'n gwn...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gosodwr ystafelloedd ymolchi Mae gosodwyr ystafelloedd ymolchi yn gosod bron bob rhan o ystafell ymolchi - ga...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Gosodwr lloriau Cael hyfforddiant ar sut i baratoi isloriau, gosod gorchuddion llawr a gweithio ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Clerc gwaith Mae clerc gwaith (a elwir hefyd yn arolygydd safle neu swyddog ansawdd adeiladu)...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr contractau Yn ystod prosiect adeiladu, mae’r rheolwr contractau yn goruchwylio’r broses con...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd Gosod Allan Peirianwyr Gosod Allan yw'r prif gynghorwyr technegol i isgontractwyr a gweithre...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Tiwtor Addysg Bellach Gweithiwch gyda disgyblion dros 16 oed i’w helpu i ddysgu’r sgiliau sy’n eu siap...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr adeiladu Mae gofyn i reolwyr adeiladu ddelio â’r ochr ymarferol o reoli a chynllunio’r br...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Rheolwr prosiect Rheolwr prosiect sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw fath o waith adeiladu...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080