Prentisiaethau yn Lloegr
Gwneud cais i wneud prentisiaeth yn Lloegr
Mae tiwtoriaid Addysg Bellach yn dysgu myfyrwyr a phrentisiaid sydd dros 16 oed. Maent yn datblygu dealltwriaeth ymarferol a damcaniaethol ar draws amrywiaeth eang o gyrsiau a’u hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu neu beirianneg.
£19000
-£50000
35 - 37
I ddod yn diwtor addysg bellach, mae sawl llwybr ar gael. Gallech wneud cwrs yn y brifysgol neu'r coleg, gwneud prentisiaeth neu wneud cais am swydd yn uniongyrchol i gyflogwr.
Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw'r un iawn i chi. Er bod angen cymwysterau penodol i ddilyn rhai o'r llwybrau hyn, mae’n well gan lawer o gyflogwyr fod unigolion yn frwdfrydig, yn fodlon dysgu ac yn gallu dilyn cyfarwyddiadau.
Gall fod angen cerdyn y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.
I ddysgu cymwysterau academaidd megis Lefelau A (neu gymwysterau cyfagos), efallai y bydd angen gradd mewn pwnc perthnasol arnoch.
Gallech ennill cymwysterau i ddod yn diwtor Addysg Bellach drwy astudio mewn prifysgol. Gallech gwblhau Tystysgrif mewn Addysg, neu ddiploma ôl-raddedig neu Dystysgrif mewn Addysg neu ddysgu hir oes.
Yn ychwanegol i gymhwyster dysgu, byddwch angen profiad a chymwysterau technegol i ddod yn diwtor ar gwrs sy’n gysylltiedig â gwaith neu gynllun prentisiaeth.
Fel arfer, bydd angen:
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
I ddod yn diwtor addysg bellach a dysgu pynciau galwedigaethol a phynciau sy’n gysylltiedig ag adeiladu, byddwch angen profiad gwaith blaenorol yn y diwydiant adeiladu. Pan fydd gennych brofiad ymarferol, gallech wneud cais i goleg neu ddarparwr hyfforddiant i ddod yn diwtor addysg bellach. Bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi gwblhau Tystysgrif mewn Addysg (neu gymhwyster cyfatebol) yn y swydd, o fewn amser penodol ar ôl i chi ddechrau dysgu.
> Gofynion mynediad cyfatebol wedi’u hesbonio
> Dod o hyd i gwrs yn agos atoch chi
Gallech gwblhau prentisiaeth uwch gyda choleg neu ddarparwr hyfforddiant i ddod yn diwtor addysg bellach. Byddwch angen profiad diweddar o weithio yn y diwydiant adeiladu a hyfforddiant neu gymwysterau blaenorol yn y pynciau yr ydych am eu dysgu.
Gall unrhyw un dros 16 oed wneud prentisiaeth. Fel prentis, byddwch wedi’ch cyflogi'n llawn gan y cwmni rydych yn gweithio iddo a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng y gweithle a’r coleg neu'r darparwr hyfforddiant.
> Dod o hyd i brentisiaeth yn agos atoch chi
Os oes gennych sawl blwyddyn o brofiad a chymwysterau mewn maes adeiladu, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr, neu gwblhau tystysgrif dysgu wrth weithio.
Mae profiad gwaith yn hanfodol i sicrhau swydd yn y diwydiant adeiladu a mynd ymlaen i ddod yn diwtor addysg bellach. Gallech gael profiad gwaith drwy weithio dros benwythnosau a gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy'n gweithio yn y diwydiant. Bydd darpar-gyflogwyr bob amser yn falch o weld profiad gwaith ar eich CV.
> Rhagor o wybodaeth am brofiad gwaith
Mae sgiliau ychwanegol a all fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel tiwtor addysg bellach yn cynnwys:
Fel tiwtor addysg bellach, byddwch yn gyfrifol am ddysgu myfyrwyr a phrentisiaid, ac yn datblygu eu dealltwriaeth o bwnc penodol. Gall hyn gynnwys cyfuniad o sgiliau damcaniaethol ac ymarferol.
Mae dyletswyddau tiwtor addysg bellach fel a ganlyn:
Steve Howard
Mae Steve Howard yn uwch hyfforddwr ar gyfer CITB yn yr Academi Twnelu ac Adeiladu Tanddaearol (TUCA) yn Llundain.
Mae'r cyflog disgwyliedig yn amrywio wrth i chi ddod yn fwy profiadol.
Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y gallwch ei weithio.
* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant ac wedi’u diweddaru ers 2019
Edrychwch ar y swyddi Tiwtor Addysg Bellach sy’n wag ar hyn o bryd:
Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, gall nifer y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'ch rôl ddewisol amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.
Fel tiwtor Addysg Bellach, gallech weithio mewn addysg bellach neu golegau chweched dosbarth, addysg i oedolion neu ganolfannau hyfforddi annibynnol.
Gyda phrofiad fel hyfforddwr, gallech ddatblygu i ddod yn uwch-ddarlithydd, pennaeth adran neu symud i rôl uwch reolwr.
Gallech ddod yn aseswr neu’n arholwr, neu ddatblygu gwerslyfrau a ffynonellau addysgol ar-lein.
Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod