Mae Alison Crofton yn Gyfarwyddwr Technegol gyda'r cwmni adeiladu tai cenedlaethol Barratt Developments.
Sut y gwnaethoch ddechrau arni?
Ymunais â chynllun hyfforddi graddedig cwmni adeiladu tai cenedlaethol arall, lle roeddwn yn ddigon ffodus i weithio ymhob adran o fewn y cwmni. Ar ôl 12 mis o hyfforddiant, penderfynais mai yn yr adran dechnegol yr oeddwn yn serennu a dechreuais fel Cydgysylltydd Technegol Cynorthwyol. Gweithiais fy ffordd i fyny i'm swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Technegol.
Dewisais weithio yn yr adran dechnegol am ei bod yn delio â chynifer o faterion a heriau gwahanol. Gallwn weithio yn y swyddfa ac ar y safle. Roeddwn hefyd o'r farn ei fod yn rhoi gwybodaeth helaeth i mi a fyddai'n fy ngalluogi i newid llwybr gyrfaol a rolau yn y dyfodol.
Beth rydych yn ei wneud?
Y peth gwych am fy ngwaith yw bod pob diwrnod yn wahanol. Un diwrnod gallwn fod yn gweithio ar ddylunio system garthffosiaeth a'r diwrnod nesaf yn edrych ar ddaear, neu'n delio â chytundeb wal parti (lle mae dau berson/cymydog yn rhannu'r un wal) cyn dechrau ar y safle.
Beth rydych yn ei hoffi am y gwaith?
Rwy'n cael gweithio gyda chynifer o bobl a chymeriadau gwahanol a diddorol. Mae'r bobl hyn yn gweithio ar y safle, yn y swyddfa, mewn cymdeithasau tai a chwmnïau cyfleustodau ac yn cynnwys peirianwyr, penseiri, cynllunwyr a chyfreithwyr ymhlith llawer mwy! Mae'r gwaith yn parhau'n heriol ac yn llawn boddhad sy'n rhywbeth na all llawer o bobl ei ddweud am eu gwaith.
Beth rydych yn ymfalchïo ynddo?
Y tîm rwyf ynddo ac wedi helpu i'w greu, ynghyd â'r cymunedau a'r datblygiadau rwyf wedi gweithio arnynt. Rwyf hefyd yn falch o'r gwaith rwy'n ei wneud gyda Novus, sef cynllun a redir gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig i annog cynifer o bobl ifanc â phosibl i ymuno â'r diwydiant.
Ble nesaf?
Dod yn Rheolwr-Gyfarwyddwr is-adran o fewn fy nghwmni a pharhau â'm hymrwymiadau i gynllun y Sefydliad Adeiladu Siartredig i annog pobl ifanc i ddewis gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
Unrhyw gyngor gyrfaol?
Peidiwch ag oedi, ymunwch â'r diwydiant gwych hwn heddiw!
I gael rhagor o wybodaeth am Novus ewch i wefan y Sefydliad Adeiladu Siartredig