Gall y broses o wneud cais am swyddi yn y diwydiant adeiladu neu gyfleoedd hyfforddi fod yn un anodd ac weithiau mae'n teimlo fel swydd llawn amser ynddi'i hun.
Rydym wedi llunio cyngor i hwyluso'r broses a'ch helpu i sicrhau bod eich cais yn llwyddiannus.
Gallwch hefyd archwilio'r holl wahanol yrfaoedd adeiladu sydd ar gael gyda'r Animeiddiad Rolau yn y Diwydiant Adeiladu.
Sicrhewch nad yw’n hirach na dwy ochr A4 a chofiwch wirio unrhyw gamgymeriadau sillafu cyn argraffu.
Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd, bydd llawer o gyflogwyr yn gofyn i chi anfon CV, neu curriculum vitae, atynt sy'n rhoi gwybodaeth am eich holl sgiliau a chyflawniadau.
Mae'n bwysig gwneud i'ch CV edrych yn broffesiynol drwy ei deipio ar gyfrifiadur mewn inc du, gan ddefnyddio ffont syml fel Helvetica, Arial neu Calibri.
Ni ddylai fod yn fwy na dwy ochr o A4 a chofiwch ei wirio am gamgymeriadau sillafu cyn ei argraffu.
Gallwch wneud eich CV hyd yn oed yn haws ei ddarllen drwy ei rannu fel a ganlyn, gan ddechrau pob adran gyda'r wybodaeth fwyaf diweddar lle bo'n berthnasol:
Cofiwch y gallai fod angen i chi ymhelaethu ar eich CV mewn cyfweliad, felly peidiwch â dweud celwydd.
Caiff llythyrau eglurhaol eu hanfon gyda CVs a ffurflenni cais. Maent yn rhoi'r cyfle i chi amlinellu pam mai chi yw'r person iawn am y swydd neu'r cynllun hyfforddi a gynigir. Gallwch hefyd eu defnyddio i wneud cais am gynlluniau hyfforddi fel prentisiaethau adeiladu.
Dysgwch gymaint â phosibl am y swydd drwy ymchwilio ar-lein neu ffonio'r cwmni ei hun fel y gallwch gynnwys y wybodaeth fwyaf perthnasol yn eich llythyr.
Defnyddiwch un ochr o A4 yn unig a chofiwch ddangos brwdfrydedd.
Dechreuwch eich llythyr gyda manylion y swydd neu'r brentisiaeth y gwneir cais amdani, cyn crynhoi mewn ychydig baragraffau byr pam mai chi yw'r ymgeisydd delfrydol, gan gynnwys sgiliau a phrofiad perthnasol.
Pan fydd yn barod i'w anfon, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw gamsillafu neu wallau gramadegol.
Yn hytrach nag anfon CV, bydd rhai cwmnïau yn gofyn i chi gwblhau eu ffurflenni cais, a allai fod ar-lein neu ar ffurf copi caled.
Darllenwch y cyfarwyddiadau'n ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth gywir yn y ffordd gywir, fel dechrau eich hanes cyflogaeth gyda'ch swydd fwyaf diweddar.
Bydd ffurflenni cais yn aml yn cynnwys dau fath o gwestiwn:
Gyda chwestiynau am sgiliau, mae'n syniad da rhoi enghreifftiau cadarn o adegau pan wnaethoch ddefnyddio eich galluoedd i gyflawni nod clir.
Wrth ateb cwestiynau personol, dywedwch pam bod eich rhinweddau a'ch profiadau penodol yn golygu eich bod yn ddelfrydol ar gyfer y swydd.
Weithiau bydd angen i chi ffonio cyflogwr neu ddarparwr hyfforddiant er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cyfle.
Cyn i chi ffonio, treuliwch ychydig amser yn meddwl am yr hyn rydych am ei ddweud, gan sicrhau bod gennych y rhif cywir a'ch bod yn gwybod â phwy i siarad.
Pan fyddwch yn gwneud yr alwad, ewch i rywle tawel a chofiwch siarad yn glir ac yn hyderus, gan ofyn am eglurhad os na fyddwch yn deall rhywbeth.
Y cyfweliad yw'ch cyfle i serennu, felly paratowch er mwyn i chi gael pob siawns o lwyddo.
Cyn y cyfweliad, darllenwch y disgrifiad swydd unwaith eto a cheisiwch ddyfalu pa fath o gwestiynau a allai godi, tra hefyd yn paratoi atebion i gwestiynau cyffredin, gan gynnwys:
Mae'r argraff gyntaf yn hollbwysig, felly dewiswch eich dillad yn ofalus a gwnewch ymdrech arbennig i edrych yn drwsiadus.
Ceisiwch wneud i'r cyfweliad fod mor debyg â phosibl i sgwrs, gan gofio gwenu, edrych ar y cyfwelydd neu'r cyfwelwyr yn uniongyrchol ac ateb cwestiynau'n hyderus.
Os na fyddwch yn cael y swydd, peidiwch â digalonni gormod.
Gofynnwch am adborth fel y gallwch barhau i wella eich techneg gyfweld a llwyddo'r tro nesaf.
Mae mwy na 10,000 milltir o reilffordd yn y DU - i gyd gyda'i gilydd, gallech ddal y trên o Lundain i Adelaide yn Awstralia.
Ewch i'r Porwr Gyrfaoedd A-Y i gael gwybodaeth am yr holl swyddi yn y diwydiant adeiladu.